Ymddiriedolwr
Mae Kat yn entrepreneur cymdeithasol ac yn fentor, hwylusydd dysgu a hyfforddwr cymwysedig gyda’r ICF (y sefydliad hyfforddiant rhyngwladol), ar ôl treulio’r rhan fwyaf o’i bywyd gwaith o fewn a chyda’r sectorau gwirfoddol ac addysg. Mae Kat yn arbennig o frwd am greu cymunedau cynhwysol, teg a chynaliadwy, gan arwain a chefnogi mudiadau effaith gymdeithasol yn y meysydd symudedd cymdeithasol, cyflogadwyedd, cydlyniant cymunedol, grymuso menywod, EDI (cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant) a datblygu cynaliadwy.
Dros y chwe blynedd ddiwethaf yn ei busnes ei hun, mae wedi cefnogi cannoedd o fentrau cymdeithasol a’u sylfaenwyr i gydnabod gwerth y gwaith y maen nhw’n ei wneud, ac wedi’u cynorthwyo, fel hyfforddwr, mentor ac addysgwr, i ddatblygu eu strategaeth a’u busnes a mesur eu heffaith.
Mae wedi ymgymryd â nifer o rolau bwrdd eraill, gan gynnwys gyda Gyrfa Cymru a’r mudiad Triniaeth Deg i Fenywod Cymru (FTWW).
Fel mam i ddwy ferch mae Kat yn dwli ar dreulio amser yn yr awyr agored, coginio (hynny yw, bwyta) a dysgu sut i ail-wylltio ei gardd.
Kat yw Is-gadeirydd Panel Buddsoddiad Cymdeithasol a Phanel Cronfa Benthyciadau Asedau Cymunedol CGGC.