Johanna Davies

Johanna Davies ein Pennaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Pennaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol 

Mae Johanna wedi gweithio yn y sectorau gwirfoddol, cyhoeddus, tai ac academia, gan weithio’n bennaf gyda phobl hŷn a gofalwyr. Graddiodd o Brifysgol Abertawe gydag MSc mewn Astudiaethau Gerontoleg a Heneiddio Rhyngwladol a bu hefyd yn astudio dramor ym Mhrifysgol Alberta, Canada. 

Mae hi’n ymroddedig i hyrwyddo cyfranogiad a chynhwysiant pobl sydd â phrofiadau byw wrth wneud penderfyniadau, ac mae hi hefyd yn eiriolwr ar gyfer rôl y sector gwirfoddol wrth gefnogi pobl a chymunedau. Yn ei hamser hamdden mae Johanna yn hyfforddwr nofio ac yn angerddol am sicrhau bod plant ac oedolion yn dysgu’r sgil bywyd pwysig yma. 

Fel Pennaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol mae’n arwain tîm sy’n gweithio tuag at sicrhau bod mudiadau gwirfoddol a gwirfoddolwyr yn cael eu hystyried a’u gwerthfawrogi fel partneriaid cyfartal sy’n hanfodol i sicrhau Cymru iachach, gydnerth a mwy cyfartal. 

Dilyn Johanna Davies

Golygfeydd a ysgrifennwyd gan yr awdur hwn: