Ymddiriedolwr
Rwy’n hapus fy myd pan rydw i’n gweithio gyda phobl sy’n frwd am wneud pethau’n well i gymunedau a’r lleoedd y mae pob un ohonom ni’n dibynnu arnynt. Gyda’r dydd, fi yw Cyfarwyddwr WWF Cymru, yn arwain gwaith ar wydnwch yr hinsawdd, adfer natur a lles cymunedol, a gweithio gyda Gweinidogion, swyddogion, partneriaid a’r cyfryngau i droi uchelgais yn gynnydd ymarferol.
Gyda’r nos*, fi yw Cadeirydd Ynni Cymunedol Cymru, yn cefnogi twf ynni adnewyddadwy sy’n eiddo i’r gymuned a helpu i sicrhau llywodraethu cryf, cyllid cadarn a rheolaeth risg ystyriol. Rwyf wedi fy nhrwytho mewn gwleidyddiaeth hefyd, fel cyn Brif Weithredwr Plaid Cymru, yn llywio’r mudiad drwy bedair etholiad cenedlaethol, yn cryfhau ei lywodraethiant ac yn meithrin diwylliant mwy gwydn a arweinir gan werthoedd.
Rwyf hefyd wedi arwain Cyfeillion y Ddaear Cymru a Chymdeithas Eryri ac mae gennyf brofiad anweithredol o’r sector tai cymdeithasol.
Rwy’n hoffi bod allan ym myd natur – mynyddoedd, coedwigoedd, arfordiroedd. A’m hobsesiwn diweddaraf? Pyllau ysbrydion!
*yn ystod y dydd gan fwyaf hefyd a dweud y gwir.