Felicitie (Flik) Walls

Llun proffil o Reolwr Gwirfoddolwyr WCVA, Flik

Rheolwr Gwirfoddoli

Flik yw Rheolwr Gwirfoddoli CGGC, yn gyfrifol am ein gwaith gwirfoddoli sy’n galluogi mudiadau i gyflwyno cyfleoedd gwirfoddoli o ansawdd uchel yng Nghymru, drwy fynediad at grantiau, gwybodaeth, adnoddau, rhwydweithiau, cynnyrch (fel Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr), ac adnoddau digidol (Hello, Platfform Gwirfoddoli Cymru). Mae Flik hefyd yn gweithio gyda Thîm Cyfathrebu CGGC i sicrhau bod gwirfoddoli yn cael ei ddathlu a’i gydnabod yng Nghymru, drwy lwybrau fel yr Wythnos Gwirfoddolwyr genedlaethol (gwefan Saesneg yn unig) a Gwobrau Elusennau Cymru.

Ymunodd Flik ag CGGC a’r tîm Gwirfoddoli yn 2016, yn gyntaf fel Rheolwr Grantiau Gwirfoddoli Cymru ac i gefnogi popeth i wneud â gwirfoddoli ieuenctid, brwdfrydedd sy’n parhau i ddisgleirio’n llachar ym mhopeth y mae’n ei gwneud yn CGGC a thu hwnt. Flik yw un o Hyrwyddwyr Lles CGGC a sylfaenydd yr hyn a elwir nawr yn Rhwydwaith Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Trydydd Sector.

Mae gan Felicitie gymwysterau proffesiynol mewn Gwaith Ieuenctid ac MSc mewn Rheoli yn y Proffesiynau Cymunedol. Mae wedi gweithio mewn elusennau ac yn y sector cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr, ers y taniwyd ei brwdfrydedd am y sector pan ddaeth yn wirfoddolwr ifanc ei hun.

Mae’n aelod o’r ‘Global Network of Volunteer Leaders’ (GNVL), yn ymddiriedolwr gyda Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA), wedi’i mentora gan ‘One Million Mentors (1MM) (gwefan Saesneg yn unig) ac yn falch iawn o fod wedi sefydlu’r Rhwydwaith Arweinwyr y Dyfodol cyntaf yng Nghymru (gwefan Saesneg yn unig).

Dilyn Felicitie (Flik) Walls

Golygfeydd a ysgrifennwyd gan yr awdur hwn:

Cyhoeddi ar: 15/12/23

Creu byd o effaith, un dasg fechan ar y tro

Darllen mwy

Cyhoeddi ar: 17/10/22

Gwirfoddoli i ddysgu. Llwybrau i uwchsgilio, ailsgilio neu ennill sgiliau newydd

Darllen mwy

Cyhoeddi ar: 08/09/22

Recriwtio a chroesawu gwirfoddolwyr – ydyn ni’n parhau i wneud pethau’n iawn?

Darllen mwy

Cyhoeddi ar: 10/07/20

Paratoi i wirfoddoli ar ôl y cyfyngiadau symud

Darllen mwy

Cyhoeddi ar: 24/06/20

Gwerth gwirfoddoli yn sgil y coronafeirws

Darllen mwy

Cyhoeddi ar: 20/04/20

Eisiau gwirfoddoli? Byddwch yn amyneddgar, byddwch yn garedig, byddwch yn barod!

Darllen mwy