Ellis Peares FRSA

Aelod bwrdd CGGC, Ellis Peares

Ymddiriedolwr

Fy enw i yw Ellis Peares, rwy’n berchennog busnes ifanc ac yn ymddiriedolwr. Fel rhywun ifanc sy’n frwdfrydig ynghylch creu newid, rwyf wastad wedi credu mai gwirfoddoli yw un o’r ffyrdd gorau o gael effaith bositif.

Mae gwirfoddoli wedi bod yn rhan enfawr o’m mywyd ers tro byd, ac mae’n parhau i lywio’r gwaith rwyf yn ei wneud heddiw. Yn fy amser rhydd, rwyf wrth fy modd yn gwirfoddoli a chymryd rhan mewn achosion sy’n cyd-fynd â’m gwerthoedd.

Mae fy mhrofiad yn y senedd ieuenctid wedi caniatáu i mi weithio gyda phobl a mudiadau amrywiol, gan ehangu fy ngwybodaeth a’m galluogi i weithio ar draws nifer o sectorau. Rwy’n edrych ymlaen at ehangu fy mhrofiad o wirfoddoli a pharhau i wneud gwahaniaeth ystyrlon.

Dilyn Ellis Peares FRSA

Golygfeydd a ysgrifennwyd gan yr awdur hwn: