Elen Notley

Portread o Elen Notley, Rheolwr Marchnata a Chyfathrebiadau

Rheolwr Marchnata a Chyfathrebiadau

Wedi iddi raddio â gradd mewn Busnes a Rheoli, aeth Elen ymlaen i weithio yn y diwydiant gemwaith mewn rôl reoli cyn dilyn ei hoffter am goginio a chael swydd yn y diwydiant bwyd.

Yn Rheolwr Marchnata Digidol dros gwmni bwyd byd-eang o Iwerddon, treuliodd Elen ei hamser rhwng de Cymru a de Iwerddon yn rheoli cyfathrebiadau, presenoldeb ar-lein a digwyddiadau mawr ar gyfer nifer o isadrannau’r mudiad. Yn ystod yr amser hwn, gwnaeth Elen hefyd gwblhau ei Diploma Digidol Lefel 6 mewn Marchnata Proffesiynol gyda’r CIM (y Sefydliad Marchnata Siartredig).

Wrth weithio’n agos â’r adran CSR (Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol) yn ei rôl flaenorol, penderfynodd Elen ei bod eisiau gwneud mwy er budd cymdeithasol, ac felly ymunodd â CGGC fel Rheolwr Marchnata a Chyfathrebiadau ym mis Medi 2019. O fewn y rôl hon, mae Elen yn rheoli digwyddiadau ac aelodaeth, marchnata a chyfathrebiadau a dysgu a hyfforddiant.

Mae Elen yn siaradwr Cymraeg brwdfrydig a chafodd ei magu yng Nghaerdydd. Mae’n treulio llawer o’i hamser rhydd yn rhoi cynnig ar gymaint â phosibl o fwytai yn ei dinas enedigol.

Dilyn Elen Notley

Golygfeydd a ysgrifennwyd gan yr awdur hwn:

Cyhoeddi ar: 09/02/21

Brechlyn COVID-19: Sut gall mudiadau gwirfoddol chwarae rhan yn y cyfathrebu

Darllen mwy