Simon Harris

Simon Harris, aelod fwrdd CGGC

Ymddiriedolwr

Simon yw Cynrychiolydd Cymru ar gyfer yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, sefydliad sy’n ceisio sicrhau bod marchnadoedd yn gweithio’n dda i ddefnyddwyr a busnesau ledled y DU. Yn y rôl hon, gan weithio gyda chyrff defnyddwyr eraill, mae Simon yn helpu i sicrhau bod pobl yn gwrando ar fuddiannau a phryderon defnyddwyr yng Nghymru.

Cyn hyn, roedd Simon yn Gyfarwyddwr Cymru ar gyfer Busnes yn y Gymuned sy’n ceisio gwella cyfrifoldeb cymdeithasol busnesau drwy ei raglenni addysg, yr amgylchedd a’r gweithlu.

Datblygodd Simon angerdd dros gyfrifoldeb cymdeithasol yn ystod ei 18 mlynedd yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru, lle y bu’n Brif Weithredwr am saith mlynedd yn darparu cymorth i broseictau cydweithredol a mentrau cymdeithasol. Cadeiriodd Simon y Rhwydwaith Mentrau Cymdeithasol am ddeng mlynedd ac roedd yn aelod o’r Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Fentrau Cymdeithasol.

Simon yw Is-gadeirydd Pwyllgor Archwilio a Risg CGGC ac mae’n aelod o fwrdd Fareshare Cymru, sef elusen dosbarthu bwyd sy’n helpu i drechu tlodi bwyd a gwastraff bwyd. Simon hefyd yw Cadeirydd Panel Buddsoddi Cymunedol a Phanel Cronfa Benthyciadau Asedau Cymunedol CGGC.

Dilyn Simon Harris

Golygfeydd a ysgrifennwyd gan yr awdur hwn: