Cyfarwyddwr Cynorthwyol Strategaeth a Phobl
Mae Sara wedi gweithio i CGGC ers 2006 ac yn gyfrifol am reolaeth gweithrediadau o weithgareddau megis rhagleni grant, aelodaeth, dysgu, marchnata a chyfathrebiadau. Mae hyn yn cynnwys y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol sy’n anelu i leihau anweithredoldeb economaidd ac i wella cyflogadwyedd y bobl sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur.
Cyn ymuno hefo CGGC roedd Sara wedi gweithio yn y sector breifat a’r sector cyhoeddus, dechreuodd ei gyrfa mewn gwerthiannau a marchnata yn y sector gweithgynhyrchu. Er hynny, pan gafodd y cyfle i weithio yn y sector gyhoeddus i Heddlu Dyfnaint a Chernyw, dechreuodd Sara sylweddoli bod mwy o werth i swydd na chyflog yn unig, gallai hefyd helpu unigolion a’r gymuned ehangach, y rhai sy’n wynebu’r anfantais fwyaf.
Mae Sara yn mwynhau ei rôl yn CGGC yn ddirfawr yn ogystal â gweithio yn y trydydd sector i ddefnyddio’i hangerdd a’i sgiliau i helpu’r rhai sydd ei angen fwyaf.
Pan nad yw’n gweithio mae Sara yn hoffi treulio amser gyda’i theulu, cerdded yn yr awyr agored ac yn ymweld â rhai o’r tirluniau a thraethau gorau sydd gan Gymru.