Rajma Begum

Llun proffil o Rajma Begum, Swyddog Amrywiaeth (BME) Cenedlaethol

Rheolwr Amrywiaeth Cenedlaethol

Mae angerdd ac ymroddiad Rajma i weithio ym myd cydraddoldeb chwaraeon yn deillio o’r profiadau negyddol a’r rhwystrau at chwaraeon a brofodd o oedran ifanc. Nawr wrth weithio’n agos gyda phartneriaid eraill ar draws y sbectrwm cydraddoldeb ac amrywiaeth, cenhadaeth Rajma yw sicrhau bod holl chwaraeon a gweithgareddol corfforol yn hygyrch ac yn croesawu holl rannau o’r gymuned Gymreig. Ewch i weld ein tudalen we Chwaraeon BME Cymru i ddarllen mwy am hyn.

O dro i dro fe’i gwelir fel amharwr positif, ond yn amlach mae’n cael ei gweld yn arbenigwr gwerthfawr i gefnogi cynhwysiant mewn chwaraeon, mae Rajma hefyd yn hyfforddwr ac ymgynghorwr cydraddoldeb a chynhwysiant.

Mae ganddi wir angerdd am hawliau merched, cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb ac mae hi wedi bod yn Gadeirydd ar Women Connect First am y dair mlynedd ddiwethaf. Ym Mis Medi 2019 penodwyd Rajma gan Lywodraeth Cymru i wasanaethu ar Fwrdd Chwaraeon Cymru am gyfnod o dair blynedd.

Mae Rajma’n caru’r holl chwaraeon ac yn cymryd rhan weithredol mewn nofio a cherdded ac fe gwblhaodd Hanner Marathon Caerdydd 2018. Mae hi hefyd yn mwynhau cwcio ac yn aml yn trefnu cael cyri yn y swyddfa yn ffordd o ddod â phobl at ei gilydd (er mawr llawenydd i’w chydweithwyr yn CGGC!)

Dilyn Rajma Begum

Golygfeydd a ysgrifennwyd gan yr awdur hwn: