Dirprwy Brif Weithredwr
Mae Matt wedi bod gyda CGGC ers 2008, ac yn ystod yr amser hwnnw mae wedi ymgymryd â llawer o rolau o fewn y mudiad.
Yn benodol, mae Matt wedi gweithio ar nifer o dimau a phrosiectau llwyddiannus, a’u harwain, gan ddefnyddio ffynonellau cyllido amrywiol iawn.
Fel y Dirprwy Brif Weithredwr cyfredol, mae Matt yn cefnogi’r Prif Weithredwr yn narpariaeth strategol a gweithredol CGGC, gan weithio ar draws y mudiad i sicrhau bod CGGC yn cyflawni ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru.
Y tu allan i’r gwaith, mae Matt yn hyfforddwr criced a rygbi pobl ifanc ac mae hefyd yn aelod o Fwrdd ei glwb criced lleol.