Ymddiriedolwr
Fel Athro Polisi Iechyd a Gofal ym Mhrifysgol De Cymru, mae Mark wedi bod yn ymdrochi mewn materion y trydydd sector yng Nghymru ers blynyddoedd. Mae ei waith wedi canolbwyntio ar ddeall y ffyrdd y gellir gwella’r cysylltiadau rhwng sefydliadau trydydd sector lleol a chenedlaethol, a thrwy werthuso’r effeithiau uniongyrchol y mae sefydliadau’n eu cael ar y rhai sydd mewn angen.
Mae Mark yn cydnabod yr her o fesur canlyniadau, sydd wedi dod yn rhan mor bwysig o rôl y sector. Mae’n eistedd ar Weithgor Effaith CGGC, ac mae’n gweithio ar y materion hyn ar ran y sefydliad. Mae hefyd yn rhan o Bwyllgor Archwilio a Risg CGGC.
Mae Mark yn byw yn yr Hendy, Sir Gaerfyrddin, lle mae’n gwirfoddoli fel rhiant-lywodraethwr yn yr ysgol gynradd leol. Mae’n mwynhau gwylio ei dri mab yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o gampau, ac mae’n cefnogi gwaith adran iau y clwb rygbi lleol, fel Trysorydd ar hyn o bryd, ac fel Cadeirydd yn flaenorol.