Rheolwr Llywodraethu a Diogelu
Mae tair blynedd ar ddeg o waith yn y sector wedi rhoi’r angerdd i Mair i gefnogi pobl sy’n rheoli mudiadau gwirfoddol i gyflawni eu hamcanion a chyflawni eu gwaith gwych.
Mae rôl Mair yn CGGC yn cynnwys helpu mudiadau i adeiladu sylfaeni cadarn i’w gwaith mewn meysydd allweddol megis llywodraethu, diogelu a mesur effaith (yr hyn oll a welwch ar ein tudalen rheoli eich mudiad).
Mae Mair wedi gweithio i ystod eang o fudiadau o grwpiau bychain llawr gwlad i elusennau cenedlaethol mawr, felly mae hi’n deall yr heriau sy’n eu hwynebu ond hefyd yn grediniol bod y sector wirfoddol yn un o’r sectorau mwyaf creadigol, cyffrous ac sy’n rhoi’r boddhad mwyaf.
Mae diddordebau personol Mair yn cynnwys iechyd meddwl, cerdded, llenyddiaeth a threftadaeth.