Ymddiriedolwr
Lindsay yw Prif Weithredwr The Wallich, sef elusen digartrefedd a chysgu ar y stryd. Cyn hynny, roedd hi’n Brif Weithredwr NewLink Cymru, sy’n elusen lles.
Mae gan Lindsay dros 20 mlynedd o brofiad, gydag arbenigedd penodol ym maes camddefnyddio sylweddau, ond dechreuodd ei gyrfa fel gwirfoddolwraig ac mae’n credu y bydd gwirfoddoli yn achub y byd.
Mae wedi cyhoeddi gwaith academaidd ym maes arferion priodol yn ddiwylliannol a’r her o groesawu amrywiaeth yn y sector camddefnyddio sylweddau. Ar hyn o bryd, mae’n cyflawni Doethuriaeth Broffesiynol ac mae’n gymrawd ymchwil anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yn 2015, enillodd Lindsay Gategori’r Trydydd Sector yng Ngwobrau Arwain Cymru ac, yn 2016, daeth yn ail yn y Categori Llywodraethu yng Ngwobrau’r Trydydd Sector.
Pan nad yw Lindsay yn hyrwyddo pobl sydd â phroblemau lles, mae’n mwynhau codi pwysau, ac unwaith llwyddodd i godi pwysau oedd yn cyfateb i fws deulawr. Mae hi hefyd yn mwynhau cwmni ei phedwar ci, ei chwe iâr a’i 60,000 o wenyn.