Kate Young

Kate Young, WCVA board member

Ymddiriedolwr

Ar hyn o bryd, Kate Young yw Cyfarwyddwr Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan, sef y rhwydwaith cenedlaethol i ofalwyr sydd ag aelodau ag anableddau dysgu o fewn y teulu, gan ymgysylltu â thros 4,000 o deuluoedd ledled Cymru.

Mae hi’n Gadeirydd Cynghrair Gofalwyr Cymru, cynrychiolydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, aelod o Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Ofalwyr ac yn aelod dinesydd o’r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae hefyd yn gwasanaethu ar grwpiau polisi’r Llywodraeth sy’n gysylltiedig â Thaliadau Uniongyrchol, Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, Eiriolaeth, Arolygu, ac yn fwyaf diweddar, y grŵp sy’n mynd i’r afael ag unigrwydd a bod yn ynysig.

Mae Kate hefyd yn Gadeirydd Vale People First. Am bum mlynedd, bu’n Ymddiriedolwr Cymru ar gyfer Family Fund UK.

Mae gan Kate ddealltwriaeth dda o’r weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru a’r cyfleoedd a’r heriau diwylliannol, cymdeithasol, economaidd mae’n eu cynnig i’r sector. Mae ganddi ymrwymiad cadarn i’r Trydydd sector a grym cymunedau, gan gredu bod ein natur unigryw ac amrywiol, pan ddaw ynghyd, yn llawn potensial i ysgogi newid ac arloesedd.

Mae hi’n credu’n gryf mewn hawliau a dewis personol, gan ymddiddori’n benodol mewn anableddau dysgu a gofalwyr. A hithau’n gofalu am ei brawd sydd ag anableddau dysgu difrifol ac awtistiaeth, mae ganddi ddealltwriaeth bersonol a phrofiad go iawn o fodel cymdeithasol anableddau a’r materion cysylltiedig ag anghydraddoldeb o fewn cymdeithas yng Nghymru.

Cred Kate fod CGGC fel y corff aelodaeth cenedlaethol mewn sefyllfa unigryw i rymuso’r sector i fod yn llais unedig dros newid diwylliannol positif yng Nghymru, ac mae hi wedi croesawu’r cyfle i’w cynorthwyo yn y broses hon.

Dilyn Kate Young

Golygfeydd a ysgrifennwyd gan yr awdur hwn: