Cyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygu’r Sector
Mae Judith wedi gweithio yn CGGC ers 2004, i ddechrau rhan o dîm Ewropeaidd y trydydd sector (3-SET), yn cefnogi ymglymiad mudiadau gwirfoddol a chymunedol i raglenni Cronfeydd Strwythurol yr UE o 2000-2006 a 2007-2013.
Mae Judith yn gweithio yn y tîm Strategaeth a Datblygu’r Sector yn rheoli cynllunio gweithredol a chyflawni ar gyfer y Gyfarwyddiaeth. Mae hi hefyd yn cydlynu gwaith gyda phartneriaid allweddol mewn rhwydweithiau cenedlaethol a lleol i ddarparu seilwaith o gefnogaeth i sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru.
Cyn ymuno hefo CGGC gweithiodd Judith gydag Awdurdod Datblygu Cymru yn cydlynu partneriaeth Entrepreneuriaeth yn yr ardal Amcan Un. Cyn hyn roedd Judith yn gweithio yn y Corpration of London yn dylunio a chyflwyno menter Materion Cymunedol. Mae gan Judith radd anrhydedd BA mewn Almaeneg ac Astudiaethau Busnes o Brifysgol Warwick.
Ar ôl sefyll lawr fel ymddiriedolwr, mae Judith nawr ar secondiad fel Rheolwr Gyfarwyddwr Aren Cymru. Mae Judith yn mwynhau defnyddio ei hamser hamdden i archwilio’r byd gyda’i gŵr a’i theulu ifanc.