Ymddiriedolwr
Mae Joe yn Hyfforddai Graddedig ar y Rhaglen Cymru Gyfan ar gyfer Graddedigion Gwasanaeth Cyhoeddus gydag Academi Cymru, ar leoliad gyda Choleg Penybont a Chymdeithas Tai Cymoedd i’r Arfordir.
Mae Joe yn gweithio gyda Choleg Penybont i ddarganfod a chwestiynu’r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr i gefnogi’r agenda datgarboneiddio. Gyda Thai Cymoedd i’r Arfordir, mae’n amlygu ac yn hwyluso’r cymorth sydd ei angen ar berchnogion cartrefi a rhanddeiliaid eraill i roi mesurau ôl-osod cynaliadwy ar waith mewn tai cymdeithasol a thu hwnt.
Yn Diverse Cymru, elusen sy’n gweithio ar draws y nodweddion gwarchodedig yng Nghymru, arweiniodd Joe y cyfathrebiadau ar gyfer y mudiad, gan roi strwythur yn ei lle a datblygu a gweithredu strategaeth.
Joe hefyd yw llysgennad yr ‘Young Trustees Movement’ dros Dde Cymru. Mae Joe yn frwdfrydig ynghylch ymhél â phobl mewn ffyrdd ystyrlon, go iawn ac mae ganddo brofiad o weithio gydag a thros lais ieuenctid. Cred yn gryf bod yn rhaid i elusennau sy’n ceisio gweithio gyda phobl ifanc gynnwys pobl ifanc yn eu strwythurau llywodraethu!
Mae Joe wedi siarad yn genedlaethol mewn cynadleddau ac wedi ysgrifennu dwsinau o flogiau a chyfnodolion ar werth llais ieuenctid a chynnwys pobl ifanc ar bob lefel. Mae Joe hefyd wedi gweithio ar yr ymgyrch Votes@16. Joe yw Is-gadeirydd Bwrdd Prosiect Gwirfoddoli Cymru.
Y tu allan i’r gwaith, mae Joe yn treulio’r rhan fwyaf o’i amser yn arbrofi wrth goginio, yn samplu mathau newydd o wisgi, ac yn recordio cerddoriaeth. Arferai fod yn rhedwr cyn iddo ddarganfod coginio.