Is-Gadeirydd
Fran yw Cadeirydd annibynnol presennol Rhwydwaith Cyngor Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, a hithau wedi ymddeol fis Chwefror 2019 o fod yn Gyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth Cymru. Mae Fran wedi bod yn gysylltiedig â mudiad Cyngor ar Bopeth ers 1978 pan ddechreuodd fel cynghorydd gwirfoddol, ac fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth Cymru yn 2000, gan fod yn gyfrifol am wasanaethau Cyngor ar Bopeth ledled Cymru. Mae Cyngor ar Bopeth yn darparu cyngor cyfrinachol ac annibynnol am ddim i helpu pobl i oresgyn eu problemau ac mae’n rhoi llais i gleientiaid a defnyddwyr ar y materion sy’n bwysig iddyn nhw. Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn rhoi gwerth mawr ar amrywiaeth, yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn herio gwahaniaethu.
Yn ogystal â bod yn aelod o fwrdd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), cyn ymddeol roedd Fran yn cynrychioli’r sector Cyngor ac Eiriolaeth ar Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector ac yn cadeirio’r Fforwm Darparwyr Cyngor Annibynnol. Mae hi’n aelod o Gomisiwn Bevan, yn cynghori Gweinidogion Cymru ar iechyd a gofal cymdeithasol ac wedi bod yn aelod o amryw o gyrff cynghori Llywodraeth Cymru a’r sector cyhoeddus.