Rheolwr Helpu Cymru
Fiona yw Rheolwr Helplu, yn gyfrifol am Helplu yng Nghymru, sy’n anelu i ddatblygu posibiliadau gwirfoddoli o fewn gwasanaethau gofal cymdeithasol ac iechyd.
Mae hi wedi gweithio yn nhîm gwirfoddoli CGGC ers 2003 mewn amryw o roliau. Mae prosiectau arwyddocaol yn cynnwys lansio Gwobrau Gwirfoddolwyr y Flwyddyn yn 2004, datblygiad o Buddsoddi Mewn Gwirfoddolwyr yng Nghymru, rheoli’r Prosiect Ysbryd Gwirfoddoli Cymru ar ddigwyddiadau gwirfoddoli a datblygiad o’r wefan gwirfoddoli-cymru.
Cyn hyn roedd Fiona yn gwneud ymchwil ôl-raddedig mewn maetheg a gweithiodd mewn Hybu Iechyd o fewn y GIG. Mae ganddi brofiad mewn Datblygiad Rhyngwladol ac wedi, gyda’i gŵr, rhedeg canolfan encilfa a hyfforddi yng Nghanolbarth Cymru. Yn wirfoddolwr brwd ei hun mae Fiona wedi bod yn llywodraethwr ysgol, wedi helpu mewn caffi cymunedol yn y Rhondda, ac mewn sesiynau galw heibio i geiswyr lloches ac yn stiwardio’n rheolaidd yn Theatr Sherman yng Nghaerdydd.