Ymddiriedolwr
Mae Edward yn gefnogwr brwd o’r sector gwirfoddol. Mae wedi bod yn gwirfoddoli ers dros hanner can mlynedd, felly mae ganddo flynyddoedd o brofiad i’w cynnig i Fwrdd CGGC.
Ar hyn o bryd, mae gan Edward nifer o rolau ymddiriedolwr ar draws ystod eang o sectorau. Mae hefyd yn llywodraethwr ysgol yng Nghasnewydd.
Mae gan Edward brofiad o weithio o fewn lleoliad corfforaethol. Mae wedi adeiladu rhwydwaith o gysylltiadau o fewn awdurdodau lleol, bwrdd iechyd lleol, Heddlu Gwent, yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ac Is-adran Heddlu Casnewydd, ac mae’n aelod o’r Fforwm Arweinwyr Ethnig.
Un o gryfderau Edward yw ei frwdfrydedd dros y trydydd sector. Mae Edward yn Gadeirydd Bwrdd Gweithredol GAVO, Sgowtiaid Gwent a changen Casnewydd o’r Genhadaeth i Forwyr. Mae wedi’i benodi yn Noddwr Cymdeithas y Llynges Fasnachol – Cangen Dinas Casnewydd, LATCH: Elusen Canser Plant Cymru ac wedi’i benodi’n ddiweddar yn Noddwr Cwmni Buddiannau Cymunedol Mastering Diversity. Mae Edward yn frwd am Gydlyniant Cymunedol ledled Cymru ac yn ymwneud â hyrwyddo Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI). Mae’n codi materion cydlyniant cymunedol drwy ei rôl fel aelod o’r grŵp Cynghori Annibynnol i’r Heddlu. Mae’n un o gynrychiolwyr Bwrdd Ymddiriedolwyr CGGC ar Bwyllgor EDI CGGC. Drwy ei rolau, mae wedi cynghori’n llwyddiannus ar amrediad o faterion cyllido a llywodraethu er mwyn sicrhau cynaliadwyedd y mudiadau y mae’n ei gynrychioli.
Mae Edward wedi ennill MBE ac yn Ddirprwy Raglaw Gwent. Mae hefyd yn aelod o Bwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Gwrth-hiliaeth CGGC.