Ymddiriedolwr
Mae Chris yn ymgynghorydd cyfathrebu a chysylltiadau cyhoeddus llawrydd. Dechreuodd ar ei liwt ei hun ar ôl 30 mlynedd yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Mae wedi rhoi cyngor a chwnsela ar gyfathrebiadau strategol i fudiadau fel Llywodraeth Cymru, Defra ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, ymhlith rhai eraill. Mae Chris o dan gontract gyda’r Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus fel eu Hymgynghorydd Arferion a Moeseg Proffesiynol, ac fel mentor a hyfforddwr, mae wedi cefnogi nifer o bobl broffesiynol uwch.
Mae Chris mor angerddol nawr am bŵer cyfathrebu i adeiladu enw da ac i newid agweddau ac ymddygiadau ag yr oedd pan ddechreuodd mewn cwmni ymgynghori cysylltiadau cyhoeddus yng Nghaerdydd yn y 1980au.
Efallai bod y data a’r sianeli wedi symud ymlaen, ond nid yw hanfod cyfathrebu da wedi newid. Wrth ei wraidd y mae deall y gynulleidfa a’r dychymyg i ddatblygu straeon sy’n cyffwrdd ag emosiynau pobl. Elusennau, grwpiau gwirfoddol a gwirfoddolwyr yw’r hyn sy’n creu straeon o’r fath!
Mae Chris yn aelod o Fwrdd Cynghori Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ac yn gyfarwyddwr practis deintyddol sy’n eiddo i gyflogeion yn y Fenni.
Yn ystod y tymor pêl-droed gallwch glywed Chris ar y rhesi yn Stadiwm Swansea.com, gydag un o’i feibion, fel aelodau o’r Jack Army. Yn yr haf, mae’n fwy tebygol o gael ei weld yn clapio’n gwrtais mewn gêm griced, yn cerdded (yn araf) gyda ffrindiau ym Mannau Brycheiniog neu’n crwydro Ewrop gyda’i wraig yn eu fan wersylla VW.
Chris yw Cadeirydd Pwyllgor Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru CGGC.