Pennaeth Cymorth
Ers darganfod hoffter o waith elusennol drwy ei hymwneud â Chymdeithas RAG ym Mhrifysgol Abertawe, mae Alison wedi gweithio mewn amrywiaeth o fudiadau gwirfoddol (a mudiadau cysylltiedig â’r sector gwirfoddol).
Ymunodd Alison â CGGC yn 2019 yn wreiddiol ar ôl gweithio yng Nghyngor Trydydd Sector Caerdydd a Sefydliad Siartredig Codi Arian Cymru. Treuliodd dros dair blynedd fel Rheolwr Cyllid Cynaliadwy cyn cael ei phenodi i rôl Pennaeth Cymorth yn 2023. Mae Alison yn falch o arwain ein Tîm Cymorth angerddol ac arbenigol, gan oruchwylio cyflawniad ein prosiectau a’n gwasanaethau cymorth allweddol sy’n helpu mudiadau yng Nghymru i ffynnu ar draws pynciau llywodraethu, diogelu, digidol, gwirfoddoli a chyllido a chodi arian.
Ar ôl byw dros hanner ei hoes yng Nghymru bellach, mae Alison yn angerddol iawn dros y sector gwirfoddol yng Nghymru, gan ei helpu i ddatblygu a dod yn fwy cynaliadwy a sicrhau nad yw Cymru’n cael ei hanghofio mewn sgyrsiau sector drwy weddill gwledydd Prydain.
Mae hi’n un o ymddiriedolwyr Triniaeth Deg i Fenywod Cymru a thrwy ei rôl yn CGGC, mae’n Is-gadeirydd Is-bwyllgor Cyllido a Chydymffurfiaeth Cynllun Partneriaeth y Trydydd Sector.
Yn ei hamser ei hun, mae Alison yn Gyfarwyddwr Rhedeg ar gyfer parkrun Parc Trelai, yn rhedeg hanner marathonau, yn teithio, yn crosio blancedi ac yn gwylio ‘gormod’ o deledu.