Colin Arnold

Colin Arnold

Ymddiriedolwr

Mae Colin yn gyfrifydd CIMA cymwys ac yn aelod o Sefydliad y Cyfarwyddwyr, sy’n rhoi cymorth Cyfarwyddwr Cyllid i fudiadau nad ydynt angen Cyfarwyddwr Cyllid parhaol neu amser llawn. Mae Colin wedi cael gyrfa gyllid amrywiol mewn cwmnïau sy’n amrywio mewn maint o FTSE 100 i fusnesau bach newydd ac mewn sectorau mor amrywiol â gofal iechyd, bwyd a cholur. Yn ogystal ag uwch rolau cyllid yn y cwmnïau hyn, mae Colin hefyd wedi cael profiad helaeth o reolaeth gyffredinol.

Mae Colin hefyd yn Fentor gyda ‘Be the Business’, sy’n rhoi cymorth i berchnogion busnesau bach a chanolig ledled y DU, ac mae hefyd yn astudio ar gyfer ei gymhwyster ILM Lefel 7 mewn Hyfforddi a Mentora Gweithredol. Mae Colin yn credu’n gryf mewn grymuso pobl i wneud gwahaniaeth o fewn y mudiadau y maen nhw’n gweithio.

Y tu allan i fyd cyllid, mae Colin yn deithiwr brwd, wedi bod i’r saith cyfandir ac yn credu yn y mantra “cymrwch dim ond lluniau, gadewch dim ond olion troed. Mae hefyd yn dwli ar ddarllen llyfrau o bob math ac mae ganddo dros 2,500 o lyfrau yn y tŷ. Ond, nid oes llawer o amser i’w darllen ers dyfodiad ci bach Labrador yn 2021 sydd wrth ei fodd yn ymuno â chyfarfodydd rhithwir!

Colin yw Cadeirydd Pwyllgor Cyllid a Risg CGGC ac ef hefyd yw Is-gadeirydd Pwyllgor Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru CGGC.

Dilyn Colin Arnold

Golygfeydd a ysgrifennwyd gan yr awdur hwn: