Carys Hedd Paschalis

Cyfarwyddwr Cynorthwyol Pobl a Diwylliant CGGC, Carys Hedd Paschalis

Cyfarwyddwr Cynorthwyol Pobl a Diwylliant

Mae Carys yn gyffredinolwr Adnoddau Dynol (AD) cymwys gyda dros 20 mlynedd o brofiad o weithio mewn elusennau, yn y byd teledu a’r sector cyhoeddus. Mae ganddi brofiad helaeth o weithio i gyrff sy’n rhoi grantiau ac mae wedi gweld yn uniongyrchol yr effaith fawr y gall hyd yn oed grantiau bach ei chael o fewn cymunedau.

I ategu ei gwaith AD, yn 2022 cymhwysodd Carys fel Hyfforddwr Gweithredol ac mae wedi hyfforddi uwch arweinwyr o wahanol gefndiroedd a sectorau. Mae hi wrth ei bodd yn hyfforddi ac yn defnyddio dulliau hyfforddi yn ei rôl fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Pobl a Diwylliant. Mae Carys yn mwynhau’r hwyl o helpu pobl i wireddu eu potensial gwirioneddol a goresgyn heriau.

Yn ei hamser hamdden, mae Carys yn treulio llawer o amser gyda’i theulu, ac mae hi’n mwynhau unrhyw beth crefftus – yn enwedig gwnïo a chreu celf cyfryngau cymysg. Mae hi hefyd yn dysgu chwarae’r gitâr (ond mae’n cyfaddef ei hun na fydd yn debygol o gael ei gwahodd i ymuno â band yn fuan!)

Logo Cymraeg