Ymddiriedolwr
Magwyd Callum yn ne-ddwyrain Lloegr cyn symud i Aberystwyth i astudio Sŵoleg yn y Brifysgol yn 2018. Ar ôl cwblhau pedair blynedd o astudio, arhosodd yn y Canolbarth ac ymuno â Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion i hybu gwirfoddoli ymhlith pobl ifanc a helpu grwpiau i gynnig cyfleoedd o ansawdd uwch i bobl ifanc. Nawr, mae’n gweithio gyda ‘Mudiadau Angori’ a hybiau’r sir fel y gallant gynorthwyo eu cymunedau yn well.
Daw cred gref Callum mewn pŵer gwirfoddolwyr o’i brofiad gwirfoddoli ei hun. Dechreuodd wirfoddoli fel Arweinydd Sgowtiaid pan oedd yn ei arddegau. Pan ddaeth yn 18 oed, ymgymerodd â’i rôl gyntaf fel rheolwr ac ymddiriedolwr ac ers hyn, mae wedi cefnogi pob lefel o’r Sgowtiaid. Roedd hyn yn cynnwys treulio pum mlynedd fel rhan o’r uwch-dîm gwirfoddoli a bwrdd ymddiriedolwyr ScoutsCymru yn hyrwyddo llais ieuenctid ac yn creu cyfleoedd i bobl ifanc lunio eu byd, o fewn a thu allan i’r Sgowtiaid. Ar hyn o bryd, Callum yw Prif Wirfoddolwyr 3ydd Sgowtiaid Aberystwyth ac mae’n cynrychioli Cymru ar Fwrdd Ymddiriedolwyr y DU y Sgowtiaid.
Mae Callum hefyd wedi gwirfoddoli gyda nifer o fudiadau myfyrwyr a chymunedol yn Aberystwyth a’r cyffiniau, gan gynnwys Aberkayakers – clwb canŵio, ceufadu a phadlfyrddio.
Yn ei amser rhydd, mae’n well gan Callum dreulio ei amser yn heicio yn y mynyddoedd, yn anturio ar ei badlfwrdd sefyll (SUP) neu’n ceufadu dŵr gwyn. Mae ganddo hefyd ddau gi border collie y mae’n cystadlu â nhw mewn cystadlaethau ystwythder cŵn ar hyd a lled Cymru a chanolbarth Lloegr.