Er mwyn i fudiadau gwirfoddol allu talu’r Cyflog Byw, mae angen iddynt gael cefnogaeth cyllidwyr. Ar gyfer yr Wythnos Cyflog Byw, dyma rai syniadau da ar sut i fod yn Gyllidwr Cyflog Byw.
Dyma ddiweddariad o erthygl a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2022.
Yr wythnos hon, rydyn ni’n dathlu dros 14,000 o gyflogwyr ledled y DU sydd wedi ymrwymo i dalu’r Cyflog Byw gwirioneddol i’w cyflogeion. Y Cyflog Byw yw’r unig gyfradd gyflog a gyfrifir yn annibynnol ar sail yr hyn sydd ei angen ar bobl i fyw, a chaiff ei ddiweddaru’n flynyddol i adlewyrchu’r costau byw gwirioneddol.
Cyhoeddodd y Sefydliad Cyflog Byw’r cyfraddau newydd ar 24 Hydref 2023, sydd 10% yn uwch na’r flwyddyn ddiwethaf. Y Cyflog Byw newydd yw £12 yr awr ledled y DU ac £13.15 yr awr yn Llundain.
BETH YW CYLLIDWR CYFLOG BYW?
Mae Cyllidwyr Cyflog Byw yn ymrwymedig i annog y mudiadau y maen nhw’n eu cefnogi i dalu’r Cyflog Byw gwirioneddol. Drwy ymrwymo i’r Cyflog Byw, gall cyllidwyr sy’n amrywio o awdurdodau lleol i ymddiriedolaethau a sefydliadau elusennol, cyllidwyr corfforaethol, gwyddonol a chyfalaf ddarparu cymorth amhrisiadwy o ran helpu i fynd i’r afael â chyflogau isel.
Mae mwy na 80 o Gyllidwyr Cyflog Byw yn y DU bellach sy’n gweithio gyda’i gilydd i helpu i roi terfyn ar gyflogau isel a thlodi mewn gwaith o fewn y sector gwirfoddol a thu hwnt. Trwy gyfuno pŵer llunio grantiau o bron £2 biliwn a chydag ymwybyddiaeth o’r effaith y mae tlodi yn ei chael ar y problemau y mae eu derbynyddion grant yn ceisio mynd i’r afael â nhw, maen nhw’n gweithio gyda’u rhwydweithiau ac yn defnyddio eu dylanwad i godi ymwybyddiaeth o broblemau a hyrwyddo’r Cyflog Byw gwirioneddol fel datrysiad.
DIDDORDEB MEWN BOD YN GYLLIDWR CYFLOG BYW? SYNIADAU DA
Gall cyllidwr Cyflog Byw ddosbarthu ei arian ei hun – ee ymddiriedolaeth, awdurdod lleol, adran lywodraethol, neu ddosbarthu arian ar ran eraill – ee CGGC neu’r Sefydliad Datblygu Cymunedol, a rhaid iddo fod yn ymrwymedig i’r canlynol:
- Dod yn gyflogwr Cyflog Byw achrededig ei hun, os nad yw eisoes wedi cofrestru. Edrychwch ar cyflogbyw.cymru
- Rhoi cyllid ar lefel sy’n galluogi staff a chontractwyr derbynyddion grant i dalu cyflogau ar gyfradd Cyflog Byw Gwirioneddol
- Peidio â ffafrio ceisiadau cyllido sy’n rhoi ‘gwerth am arian gwell’ am fod costau staff yn is na chyfradd y Cyflog Byw Gwirioneddol
- Annog a chefnogi ymgeiswyr cyllido sy’n cynnig talu llai na chyfradd y Cyflog Byw Gwirioneddol i dalu mwy – yn ddelfrydol, dylid eu helpu i wneud hynny ar gyfer eu holl fudiad. Er enghraifft, mae rhai Cyllidwyr Cyflog Byw yn dewis talu ffioedd achredu eu derbynyddion grant am y flwyddyn gyntaf, neu ragor, er mwyn eu cynorthwyo i ddod yn gyflogwyr achrededig
- Darbwyllo ei reolwyr – gofyn i’w fwrdd ymddiriedolwyr, cyfarwyddwyr, panel asesu ac ati – i gofrestru a thalu’r ffi achredu flynyddol. Mae’r ffi ar raddfa symudol yn ôl faint o arian sydd ganddo i’w ddosbarthu fel cyllid, felly mae wedi’i dylunio i beidio ag effeithio ar yr hyn sydd ar gael yn ei ‘gronfa gyllido’
- Gwneud ymrwymiad hirdymor – er enghraifft, llunio polisi sy’n ymrwymo ei fudiad i’r egwyddorion o fod yn gyllidwr Cyflog Byw a chael rheolwyr i’w gymeradwyo – gall hyn fod yn ddefnyddiol tu hwnt, yn enwedig gyda throsiant staff
- Gwneud cais i ddod yn Gyllidwr Cyflog Byw (Saesneg yn unig) a manteisio ar yr adnoddau a’r gymuned yno i’w helpu i fynd i’r afael â chyflogau isel gyda phobl eraill
ACHREDIAD CYFLOG BYW
Mae’r ffi flynyddol yn cefnogi gwaith y Sefydliad Cyflog Byw a mudiad Cynnal Cymru, parter achredu’r Sefydliad Cyflog Byw dros Gymru, er mwyn gwneud newidiadau go iawn i fywydau pobl gyflogedig. Mae hefyd yn sicrhau bod eich mudiad yn cael cyhoeddusrwydd a buddion o’i ymrwymiad i gyflog teg i bobl sy’n gwneud gwaith hanfodol yn y sector gwirfoddol, yn ogystal ag annog cyllidwyr eraill i wneud yr un peth.
Mae achredu fel Cyflogwr a Chyllidwr Cyflog Byw yn dangos amrywiaeth a chryfder yr ymdrech i drechu tlodi mewn gwaith, sydd wedi tyfu i fwy nag 14,000 o gyflogwyr ledled y DU, gan gyrraedd bywydau mwy na 460,000 o weithwyr a dychwelyd mwy na £2 biliwn i bocedi’r rheini sydd ei angen mwyaf.
Eisiau’r newyddion, barnau a chyhoeddiadau diweddaraf ynghyd ag erthyglau defnyddiol ar bynciau o bwys? Ymunwch â’n rhestr bostio. Bob wythnos rydym yn cynnig crynodeb o newyddion y sector wirfoddol a diweddariadau yn syth i’ch mewnflwch.