Rydym yn chwilio am ddau unigolyn brwdfrydig i ymuno â CGGC fel Swyddog Cyllid a Chyfarwyddwr Cyllid.
PAM GWEITHIO YN CGGC?
Mae CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru) yn cynnig ystod eang o fuddion a chyflogaeth hyblyg sy’n gwneud gwahaniaeth. Rydym yn cynnig buddion fel gweithio’n hyblyg ac mewn modd hybrid, pensiwn ar 9% o’ch cyflog a mynediad at raglen cymorth i gyflogeion.
Rydym yn buddsoddi yn ein cyflogeion a’u datblygiad. Rydym yn Gyflogwr Cyflog Byw, sy’n ymrwymedig i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i staff, ac rydym hefyd wedi ennill achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.
Mae rhagor o wybodaeth am weithio i CGGC yma.
CYFARWYDDWR CYLLID
Categori Cymraeg: Dymunol
35 awr yr wythnos
£69,504 yn cynyddu i £72,285 y flwyddyn
Bydd CGGC yn cyfrannu 9% o’r cyflog blynyddol i mewn i’w gynllun pensiwn cymeradwy.
Lleoliad: Hyblyg, mae gennym swyddfeydd yn Aberystwyth, Caerdydd a Rhyl y gall staff eu defnyddio.
Ynglŷn â’r rôl:
Ydych chi’n barod i arwain dyfodol ariannol mudiad sy’n ganolog i sector gwirfoddol Cymru? Fel Cyfarwyddwr Cyllid CGGC, byddwch yn chwarae rôl annatod mewn gyrru strategaeth ariannol a llunio twf cynaliadwy.
Os ydych chi’n frwd am wneud gwahaniaeth ac yn chwilio am swydd arweinyddiaeth lle bydd eich arbenigedd yn cynorthwyo cymunedau a mentrau gwirfoddol ledled Cymru’n uniongyrchol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Darllenwch y disgrifiad swydd llawn.
Dyddiad cau: 21 Hydref 2024, 10 am
SWYDDOG CYLLID
Categori Cymraeg: Dymunol
35 awr yr wythnos
£32,372 yn cynyddu i £34,308 y flwyddyn
Bydd CGGC yn cyfrannu 9% o’r cyflog blynyddol i mewn i’w gynllun pensiwn cymeradwy.
Lleoliad: Hyblyg, mae gennym swyddfeydd yn Aberystwyth, Caerdydd a Rhyl y gall staff eu defnyddio.
Ynglŷn â’r rôl:
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a threfnus i ymuno â’n Hadran Gyllid fel Swyddog Cyllid.
Mae hwn yn gyfle gwych i rywun â phrofiad cadarn o gyllid i ddefnyddio’u sgiliau. Bydd gan yr unigolyn delfrydol gefndir ariannol cryf a galluoedd dadansoddi rhagorol, bydd yn gallu rhoi sylw i fanylion a bod yn awyddus i ddefnyddio ei arbenigedd i helpu CGGC i gyflawni ei ddiben, sef i alluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’i gilydd.
Darllenwch y disgrifiad swydd llawn.
Dyddiad cau: 14 Hydref 2024
SUT I WNEUD CAIS
I wneud cais, lawrlwythwch y pecyn ymgeisio isod: