Rydyn ni’n chwilio am weithiwr gwirfoddoli proffesiynol dros gyfnod mamolaeth, am gyfnod penodol neu ar secondiad am 9-12 mis, gan ddechrau o fis Gorffennaf 2023.
Fel Rheolwr Gwirfoddoli, chi fydd arweinydd CGGC ar gyfer gwirfoddoli, yn cydweithio â chydweithwyr o bob rhan o CGGC, a chyda chydweithwyr Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW) i ddarparu gwasanaeth Cymru gyfan. Fel rhan o’n Grŵp ‘Cymorth’, byddwch chi’n cyflwyno rhaglen o wybodaeth, arweiniad, dysgu, digwyddiadau a rhwydweithiau ar gyfer aelodau a mudiadau gwirfoddol cenedlaethol.
PAM GWEITHIO YN CGGC?
Mae CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru) yn cynnig nifer o fuddion fel cynllun gweithio’n hyblyg, pensiwn ar 9% o’ch cyflog a mynediad at raglen cymorth i gyflogeion.
Mae CGGC yn buddsoddi yn ei gyflogeion a’u datblygiad. Rydyn ni’n Gyflogwr Cyflog Byw, sy’n ymrwymedig i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i staff, ac rydyn ni hefyd wedi ennill yr achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.
Rhagor o wybodaeth am weithio i CGGC.
RHEOLWR GWIRFODDOLI
35 awr yr wythnos
£34,304 yn cynyddu i £36,199 pro rata y flwyddyn
Bydd CGGC yn cyfrannu 9% o’i gyflog blynyddol at ei gynllun pensiwn cymeradwy.
Lleoliad:
Mae gan CGGC bolisi gweithio hybrid a hyblyg ar waith, sy’n golygu y gallwch chi weithio yn ein swyddfeydd neu o bell (gan gynnwys gartref). Rydyn ni’n fudiad Cymru gyfan gyda swyddfeydd yn Aberystwyth, Caerdydd a’r Rhyl. Bydd angen mynychu rhai digwyddiadau a threfniadau gwaith penodol yn ein swyddfeydd a lleoliadau eraill, ond y mwyafrif o’r amser, gallwch chi ddewis ble rydych chi’n gweithio fel y bo’n briodol i’ch ffordd o fyw.
Ynglŷn â’r rôl:
Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithiwr gwirfoddoli proffesiynol â sgiliau pobl a chyfathrebu ardderchog i gael profiad gwerthfawr o weithio fel rhan o dîm Cymru gyfan i roi seilwaith o gymorth i wirfoddolwyr a mudiadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr.
Rydyn ni’n chwilio am rywun sy’n frwd ynghylch gweithredu dan arweiniad gwirfoddolwyr ac sydd â phrofiad o weithio gyda gwirfoddolwyr a/neu fudiadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr ynghyd â phrofiad blaenorol helaeth o ymgysylltu â rhanddeiliaid.
Bydd rhai o’ch prif ddyletswyddau yn cynnwys:
- Arwain y gwaith o reoli, datblygu, cyflwyno ac adrodd gweithgareddau gwirfoddoli CGGC, fel rhan o wasanaeth ledled Cymru gyda’r 19 o bartneriaid cyngor gwirfoddol sirol (CVC), gan gydlynu gwaith ar y cyd drwy hwylusiad y Rhwydwaith Ymarferwyr Gwirfoddoli a’i ysgrifenyddiaeth
- Cydweithio i gydlynu a rheoli gwybodaeth, canllawiau ac adnoddau gwirfoddoli (e.e. gwefan Gwirfoddoli Cymru), cynhyrchion (e.e. Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr), dysgu a datblygu a chanllawiau CGGC, gan gynnwys cynnwys ar gyfer gwefan CGGC, y cyfryngau cymdeithasol, Hwb Gwybodaeth TSSW a rhaglen hyfforddiant sy’n ymwneud â gwirfoddoli
- Hwyluso rhwydweithiau gwirfoddoli gan gynnwys Rhwydwaith Gwirfoddoli Cymru (gan fwydo i mewn i Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (TSPC) a’r Grŵp Arweinyddiaeth Traws-sector Gwirfoddoli), Rhwydwaith Ieuenctid Gwirfoddoli Cymru a’r Rhwydwaith Ymarferwyr Gwirfoddoli
Byddwch chi hefyd yn gweithio’n agos gyda thimau eraill CGGC a chyda phartneriaid allanol, lle byddwch chi’n cael cyfle i weld yr holl brosiectau gwahanol a chyffrous rydyn ni’n gysylltiedig â nhw.
Mae’r swydd hon yn gyfle gwerthfawr i ennyn diddordeb pobl eraill mewn gwirfoddoli, dathlu cyflawniadau gwirfoddolwyr a gwneud cyfraniad positif i helpu mudiadau dan arweiniad gwirfoddolwyr i roi arferion gorau ar waith.
Darllenwch y swydd-ddisgrifiad lawn.
SUT I YMGEISIO
I ymgeisio, lawrlwythwch y pecyn cais isod:
Dyddiad cau: 20 Mawrth 2023, 10 am