Rydym yn chwilio am weithiwr polisi proffesiynol a brwdfrydig i ymuno â’n tîm fel Arweinydd Materion Cyhoeddus ar gontract cyfnod penodol dros gyfnod mamolaeth.
PAM GWEITHIO YN CGGC?
Mae CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru) yn cynnig cynnig ystod eang o fuddion a chyflogaeth hyblyg sy’n gwneud gwahaniaeth. Rydym yn cynnig buddion fel gweithio’n hyblyg ac mewn modd hybrid, pensiwn ar 9% o’ch cyflog a mynediad at raglen cymorth i gyflogeion.
Rydym yn buddsoddi yn ein cyflogeion a’u datblygiad. Rydym yn Gyflogwr Cyflog Byw, sy’n ymrwymedig i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i staff, ac rydym hefyd wedi ennill achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.
Mae rhagor o wybodaeth am weithio i CGGC yma.
ARWEINYDD MATERION CYHOEDDUS
Cymraeg yn hanfodol – Mae rhuglder amlwg yn y Gymraeg, gan gynnwys siarad, gwrando, deall, darllen ac ysgrifennu yn hanfodol i’r swydd.
35 awr yr wythnos
£38,485 yn cynyddu i £40,537 y flwyddyn ar ôl cwblhau chwe mis o gyfnod prawf yn llwyddiannus
Lleoliad:
Mae CGGC yn gweithredu polisi gweithio hybrid a hyblyg, sy’n golygu y gall ein pobl weithio cyfran o’u hamser yn ein swyddfeydd neu o bell (gan gynnwys gartref). Rydym yn fudiad Cymru gyfan, gyda swyddfeydd yn Aberystwyth, Caerdydd a’r Rhyl y gall staff eu defnyddio. Bydd gofyniad i fynychu rhai digwyddiadau staff ac ymrwymiadau gwaith penodol yn ein swyddfeydd.
Ynglŷn â’r rôl:
Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn â phrofiad o bolisi a materion cyhoeddus i ymuno â thîm CGGC ar gontract cyfnod penodol am hyd at un flynedd fel ein Arweinydd Materion Cyhoeddus. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr â phrofiad o reoli a fydd yn gallu datblygu ein hymgysylltiad ag Aelodau o’r Senedd a Llywodraeth Cymru ar faterion sy’n ymwneud â’r sector gwirfoddol.
Byddwch chi’n cael cyfle i weithio gyda’n tîm ymgysylltu gwych ac yn meithrin cydberthnasau â’n haelodau a rhwydweithiau er mwyn dylanwadu ar amcanion cyfathrebu a pholisi, eu llunio a’u cyflawni.
Bydd rhai o’ch prif ddyletswyddau yn cynnwys:
- rhoi cymorth i’n tîm rheoli arweinyddiaeth a’r bwrdd ymddiriedolwyr er mwyn sicrhau bod gwaith ymgysylltu yn llywio cynlluniau strategol a gweithredol
- goruchwylio’r gwaith o ddatblygu a chyflawni ymgyrchoedd cyfathrebu a pholisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth
- adrodd ein stori yn y cyfryngau, gan alluogi ein llefaryddion i fod yn arbenigwyr yn eu meysydd
Byddwch yn cael cyfle i gysylltu ag amrediad eang o randdeiliaid o’r sector gwirfoddol, y sector cyhoeddus a’r sector preifat a bydd angen i chi fod yn hyderus o ran cyfarch cynulleidfaoedd yn ddwyieithog.
Mae hon yn rôl hynod o werth chweil i unrhyw un a hoffai gael profiad o swydd reoli uwch a gwneud cyfraniad positif i sector gwirfoddol Cymru. Bydd secondiadau’n cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon.
Darllenwch y swydd-ddisgrifiad llawn yma.
SUT I YMGEISIO
I wneud cais, cysylltwch â Claire Dalton ar claire@nfp-people.co.uk
Dyddiad cau: 10 am, 5 Medi 2023