Mae grŵp o bobl yn eistedd o amgylch desg dan do papur mewn cyfarfod o ryw fath

Swydd Wag – Swyddog Ymgysylltu a Chyfathrebu Gwirfoddoli

Cyhoeddwyd : 07/08/23 | Categorïau: Newyddion |

Rydyn ni’n chwilio am weithiwr proffesiynol ym maes rhwydweithio a chyfathrebu ar sail secondiad neu gyfnod penodol am 18 mis, gan ddechrau ym mis Hydref 2023.

Fel y Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu â Gwirfoddolwyr, byddwch yn gyfrifol am gydlynu’r gwaith cyfathrebu, yr ymgyrchoedd a’r gweithgareddau ymgysylltu i roi cyhoeddusrwydd a hyrwyddo’r gwaith dylanwadol a wneir drwy gynllun Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru.  Bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod y partneriaethau, yr ymchwil a’r adnoddau sy’n cael eu cynhyrchu/datblygu gan y rhai sy’n ennill grantiau yn cael eu defnyddio orau i gryfhau seilwaith gwirfoddoli yng Nghymru.

PAM GWEITHIO YN CGGC?

Mae CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru) yn cynnig nifer o fanteision megis cynllun gweithio hyblyg, cyfraniadau pensiwn o 9% o’r cyflog, a mynediad at raglen cymorth i weithwyr.

Mae CGGC yn buddsoddi yn ei weithwyr a’u datblygiad. Rydyn ni’n Gyflogwr Cyflog Byw, wedi ymrwymo i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i staff, ac rydyn ni hefyd wedi ennill achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.

Rhagor o wybodaeth am weithio gyda CGGC.

SWYDDOG CYFATHREBU AC YMGYSYLLTU Â GWIRFODDOLWYR

35 awr yr wythnos

£30,830 yn codi i £32,674 y flwyddyn

Lleoliad:

Mae gan CGGC bolisi gweithio’n hyblyg ar waith, sy’n golygu y gallwch weithio yn ein swyddfeydd neu o bell (gan gynnwys gartref). Rydyn ni’n fudiad Cymru gyfan gyda chanolfannau swyddfa yn Aberystwyth, Caerdydd a Rhyl. Bydd gofyn i chi fynychu rhai digwyddiadau penodol ac ymrwymiadau gwaith yn ein swyddfeydd a lleoliadau eraill, ond y rhan fwyaf o’r amser gallwch ddewis lle rydych chi’n gweithio i gyd-fynd â’ch ffordd o fyw.

Gwybodaeth am y rôl hon:

Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithiwr proffesiynol ym maes rhwydweithio a chyfathrebu, sydd â sgiliau pobl rhagorol, gael profiad gwerthfawr o weithio fel rhan o dîm Cymru gyfan i roi cyhoeddusrwydd a hyrwyddo’r gwaith dylanwadol a wneir drwy gynllun Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru.

Rydyn ni’n chwilio am rywun sydd â phrofiad o hwyluso a gweithio gyda rhwydweithiau rhanddeiliaid allanol, gyda sgiliau ysgrifennu copi rhagorol ar draws sawl cyfrwng cyfathrebu.

Bydd rhai o’ch prif ddyletswyddau’n cynnwys y canlynol:

  • Gweithio gyda dyfarnwyr grantiau i gasglu adnoddau ac ymchwil a gynhyrchir trwy eu gweithgareddau a sicrhau eu bod ar gael yn eang. Byddwch hefyd yn sicrhau bod dysgu a gwybodaeth o’r canlyniadau hyn yn cael eu nodi a’u rhannu â rhanddeiliaid allweddol.
  • Sefydlu Cymuned Ymarfer ar gyfer dyfarnwyr grant i hwyluso dysgu mewn perthynas ag ymchwil, gwerthusiadau ac arferion gorau, ac i alluogi gweithio mewn partneriaeth.
  • Creu cynnwys diddorol fel astudiaethau achos, testun ar gyfer gwefannau, fideos, ffeithluniau a chyhoeddiadau ysgrifenedig.
  • Cydlynu cyfranogiad Cymru mewn ymgyrchoedd gwirfoddoli cenedlaethol yn y DU e. Wythnos y Gwirfoddolwyr, yr Help Llaw Mawr, Diwrnod Pŵer Ieuenctid, paratoi a dosbarthu pecynnau ymgyrchu ac asedau cyfathrebu i alluogi grwpiau rhanddeiliaid allweddol i ymhelaethu ar negeseuon.
  • Gweithio gyda chydweithwyr i gynrychioli CGGC yn Is-grŵp Ymgyrchoedd Gwirfoddoli y DU. Cysylltu â thîm y trydydd sector yn Llywodraeth Cymru i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf, ymateb i ymholiadau a chynnal ymweliadau Gweinidogol.

Byddwch hefyd yn gweithio’n agos gyda thimau CGGC eraill a phartneriaid allanol lle byddwch yn cael y cyfle i weld yr holl brosiectau amrywiol a chyffrous rydyn ni’n rhan ohonynt.

Mae’r swydd hon yn gyfle gwerth chweil nid yn unig i roi cyhoeddusrwydd i’r gwaith a wneir gan y rhai sy’n cael Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru, ond hefyd i sicrhau bod y gwaith da hwn yn cael ei ddefnyddio i adeiladu seilweithiau gwirfoddoli cryfach i Gymru.

Darllenwch y swydd-ddisgrifiad swydd llawn.

SUT MAE GWNEUD CAIS

I wneud cais, llwythwch y pecyn ymgeisio isod i lawr:

Gwybodaeth Ddefnyddiol Arall

Hysbysiad preifatrwydd 

Ffurflen gais  

Dyddiad cau: 24 Awst 2023, 10 am

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Snorcelio dros natur

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer Codi Arian

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy