Gwenu pobl fusnes ifanc gyda gliniadur yn y swyddfa

Swydd wag – Swyddog Mewnwelediadau Data

Cyhoeddwyd : 05/02/26 | Categorïau: Newyddion |

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, sy’n chwilfrydig am bopeth sy’n ymwneud â data, i ymuno â ni fel ein Swyddog Mewnwelediadau Data.

YNGLŶN Â’R RÔL

Fel ein Swyddog Mewnwelediadau Data, byddwch yn chwarae rôl hanfodol mewn trawsnewid y ffordd rydym yn defnyddio data, gan ganolbwyntio i ddechrau ar ein Baromedr newydd i Sector Gwirfoddol Cymru (y Baromedr) – adnodd arloesol i gael gafael ar dystiolaeth ddibynadwy am y sector yng Nghymru.

Bydd y rôl hon yn gwella’r ffordd rydym yn defnyddio ac yn cwestiynu’r data o’n platfformau presennol, ynghyd â ffynonellau allanol, trwy gynhyrchu mewnwelediadau i gefnogi ein gwaith ar ddylanwadu ar bolisïau cyhoeddus a chyflawni cymorth effeithiol i’r sector. Gan gynnwys cael gafael ar dystiolaeth amserol a dibynadwy. Bydd eich gwaith yn cynhyrchu mewnwelediadau pwerus o’r Baromedr, ochr yn ochr â’n platfformau presennol a ffynonellau allanol, ac yn mynd ati’n uniongyrchol i gefnogi ein cenhadaeth i ddylanwadu ar bolisïau cyhoeddus a chyflawni cymorth effeithiol ar draws y sector.

Ydych chi’n rhywun sy’n mwynhau canfod ystyr mewn data a’i rannu mewn ffordd glir a diddorol ac eisiau i’ch gwaith gael effaith go iawn mewn cymunedau ledled Cymru? Os felly, dyma’r cyfle perffaith i chi!

SWYDDOG MEWNWELEDIADAU DATA

Categori Cymraeg: Dymunol

Llawn amser, 35 awr yr wythnos, yn hyblyg

£33,286 yn cynyddu i £37,464 y flwyddyn ar ôl cwblhau cyfnod prawf o chwe mis yn llwyddiannus. Bydd 9% o gyflog blynyddol y swydd yn cyfrannu at gynllun pensiwn cymeradwy CGGC.

Lleoliad: Hyblyg. Mae gennym swyddfeydd yn Aberystwyth, Caerdydd a’r Rhyl y gall staff eu defnyddio.

Darllenwch y swydd-ddisgrifiad swydd llawn.

PAM GWEITHIO YN CGGC?

Mae buddion yn cynnwys 25 diwrnod o wyliau â thâl ynghyd ag wyth gŵyl banc, cynllun pensiwn personol, rhaglen cymorth i weithwyr, cynllun tâl salwch uwch, gweithio hyblyg, cynllun arian gofal iechyd.

Rydym yn fudiad sy’n croesawu amrywiaeth. Mae gennym bolisïau rhagorol er mwyn cael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, caiff gweithio hyblyg ei hybu, a’n diwylliant yw meithrin staff drwy arweinyddiaeth effeithiol a gwaith tîm rhagorol.

Mae cggc yn buddsoddi yn ei gyflogeion a’u datblygiad. Yn ogystal â bod yn gyflogwr cyflog byw sy’n ymrwymedig i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i staff, mae cggc wedi derbyn achrediad buddsoddwyr mewn pobl.

Rhagor o wybodaeth am weithio gyda CGGC.

SUT I WNEUD CAIS

Dyddiad cau: 22 Chwefror 2026, hanner nos

Dyddiad cyfweliad: 9 – 13 Mawrth 2026

I wneud cais, cliciwch yma.

Croesawir ceisiadau Cymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 09/02/26
Categorïau: Newyddion

Mae’n Wythnos Elusennau Cymru!

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 06/02/26
Categorïau: Gwirfoddoli, Newyddion

Arweinwyr y sector gwirfoddol yn gwrthwynebu cynigion ‘setliad a enillwyd’

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 05/02/26
Categorïau: Newyddion

Rydyn ni’n cyflogi – Rheolwr Dysgu Digidol Presgripsiynu Cymdeithasol

Darllen mwy