Rydyn ni’n chwilio am chwaraewr tîm trefnus a brwdfrydig i ymuno â’n tîm grantiau fel Swyddog Cymorth Grantiau.
Mae hwn yn gyfle gwych i siaradwr Cymraeg sy’n chwilio am rôl sy’n helpu i gefnogi gweithgarwch cymunedol ar hyd a lled Cymru. Mae hefyd yn gyfle i unrhyw un sy’n mynd ati mewn modd cefnogol ac sy’n defnyddio ei synnwyr cyffredin i ddefnyddio eu sgiliau er da i helpu CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru) i gyflawni ei ddiben – i alluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’i gilydd.
PAM GWEITHIO YN CGGC?
Mae CGGC yn cynnig buddion staff fel patrymau gwaith hyblyg a hybrid, pensiwn ar 9% o’r cyflog, a mynediad at raglen cynorthwyo cyflogeion.
Rydym yn buddsoddi yn ein cyflogeion a’u datblygiad. Rydym yn Gyflogwr Cyflog Byw, sy’n ymrwymedig i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i staff, ac wedi ennill achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.
Rhagor o wybodaeth am weithio i CGGC yma.
SWYDDOG CYMORTH GRANTIAU
Cymraeg yn hanfodol – Bydd angen i chi ddeall y prif bwyntiau pan fydd rhywun yn siarad am bynciau cyffredin neu bynciau pob dydd, neu pan fydd pethau sy’n ymwneud â gwaith yn cael eu trafod, er enghraifft, wrth sgwrsio neu mewn cyfarfod grŵp bach.
35 awr yr wythnos
£24,473 yn cynyddu i £26,072 y flwyddyn
Bydd CGGC yn cyfrannu 9% o’r cyflog blynyddol i mewn i’w gynllun pensiwn cymeradwy.
Lleoliad:
Mae gan CGGC bolisi gweithio hybrid a hyblyg ar waith, sy’n golygu y gallwch weithio yn eich swyddfeydd neu o bell (gan gynnwys gartref). Rydyn ni’n fudiad Cymru gyfan gyda chanolfannau swyddfa yn Aberystwyth, Caerdydd a’r Rhyl y gall staff eu defnyddio. Bydd angen mynychu rhai digwyddiadau staff a galwadau gwaith penodol yn ein swyddfeydd ac mewn lleoliadau eraill, ond y rhan helaeth o’r amser, gallwch ddewis eich man gweithio fel y bo’n addas i’ch ffordd o fyw.
Ynglŷn â’r rôl:
Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio o fewn ein Tîm Grantiau cyfeillgar. Fel rhan o’r rôl, byddwch yn gweithio gydag ystod amrywiol o fudiadau gwirfoddol o bob rhan o Gymru, yn eu cefnogi i gyflawni prosiectau gwych.
Mae’r rôl yn berffaith i rywun sy’n chwilio am rôl brysur ond amrywiol. Os ydych chi’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm a chyda sgiliau rheoli amser da, bydd y rôl werth chweil hon yn rhoi’r cyfle i chi weithio o’ch pen a’ch pastwn eich hun.
Bydd rhai o’ch prif ddyletswyddau yn cynnwys:
- Siarad â darpar ymgeiswyr grant i bennu sut gallem gefnogi eu gweithgarwch
- Gweithio fel rhan o dîm i gwblhau asesiadau ar geisiadau grant
- Cefnogi portffolio o fudiadau, gan fynd ati mewn modd hyblyg i sicrhau bod y prosiectau yn cyflawni eu diben
Byddwch hefyd yn cael cyfleoedd i weithio gyda thimau a chyllidwyr eraill CGGC.
Mae’r swydd hon yn un amrywiol a chyflym tu hwnt; rôl wobrwyol i unigolyn trefnus ac uchel ei gymhelliant sy’n ffynnu mewn tîm ond hefyd yn gallu gweithio ar ei liwt ei hun.
Darllenwch y swydd-ddisgrifiad lawn.
SUT I WNEUD CAIS
I wneud cais, lawrlwythwch y pecyn ymgeisio isod:
Dyddiad cau: 31 Gorffennaf 2023, 10am