Swydd wag: Swyddog Cymorth Asesu

Cyhoeddwyd : 04/03/20 | Categorïau: Newyddion |

  • Llawn amser, 35 awr yr wythnos
  • £22,182 yn codi i £23,632 y flwyddyn yn dilyn cyflawni cyfnod prawf o chwe mis yn llwyddiannus. Bydd y swydd yn denu mwyafswm o 9% o gyfraniad o gyflog blynyddol i gynllun pensiwn cymeradwy WCVA.
  • Lleoliad: Bae Caerdydd

Pam gweithio yn WCVA

Fel cyflogwr, gall Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) gynnig buddion lu megis cynllun gweithio hyblyg, pensiwn hyd at 9% o gyflog, a mynediad at raglen cefnogi cyflogeion.  Mae WCVA yn buddsoddi yn ei gyflogeion a’u datblygiad. Yn ogystal â bod yn Gyflogwr Cyflog Byw, gan ymrwymo i dalu’r cyflog byw go iawn i staff, mae WCVA wedi sicrhau achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.

Ynglyn â’r rôl

Nod y swydd yw gweithio’n rhagweithiol fel rhan o dîm i ymgymryd â dyletswyddau sy’n cyfrannu at y gwaith o gyflawni asesiadau grant ar gyfer swyddogaeth Corff Cyfryngol CGGC i’r lefel uchaf ac o fewn y gyllideb a lefelau a thargedau perfformio cytunedig y gwasanaeth, yn unol â’r meini prawf a gytunwyd â Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) a Bwrdd ac Uwch Dîm Rheoli CGGC.

Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy ddarparu:

  • Gwaith effeithiol o safon uchel sy’n cadw at ddyddiadau cau
  • Etheg tîm gref i ymgymryd yn effeithiol â’r gweithgareddau a gytunwyd â WEFO er mwyn cadw at rwymedigaethau CGGC fel Corff Cyfryngol
  • Cefnogi proses benderfynu effeithiol er mwyn sicrhau bod gwasanaeth o ansawdd yn cael ei ddarparu i’r holl gwsmeriaid mewnol ac allanol
  • Cefnogi gwelliant parhaus ac arloesedd

Mae cyllid ar gyfer y swydd hon tan: 31 Mawrth 2022 a chaiff ei chefnogi gan y Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru

Dyddiad cau: 11 Mawrth 2020

Ymgeisiwch ar recriwt3

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 15/09/23 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth 2023

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 12/09/23 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Diweddariad ar canllawiau’r Comisiwn Elusennau

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 12/09/23 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Ymchwil blynyddol y Comisiwn Elusennau

Darllen mwy