Ydych chi’n frwd ynghylch iechyd a gwydnwch ein harfordiroedd a’n moroedd? Rydym yn chwilio am rywun i gydlynu datblygiad cronfa newydd gyffrous.
YMUNWCH Â NI FEL RHEOLWR RHAGLEN FOROL!
Ydych chi’n frwd ynghylch iechyd a gwydnwch ein harfordiroedd a’n moroedd? Ydych chi eisiau arwain mentrau sy’n torri tir newydd ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn i amgylchedd morol Cymru? Os felly, mae gennym ni’r cyfle perffaith i chi!
GWYBODAETH AM Y RÔL HON
Byddwch chi, y Rheolwr Rhaglen Forol, yn chwarae rhan hanfodol mewn llunio a llywio Cronfa MARINE Cymru, menter arloesol sydd wedi’i chreu’n benodol i wella iechyd moroedd Cymru. Gan gydweithio â grŵp dynamig o arbenigwyr a rhanddeiliaid, byddwch yn denu buddsoddiad preifat, yn goruchwylio rhaglenni effeithiol ac yn sefydlu’r gronfa hon fel conglfaen ar gyfer adferiad morol cynaliadwy yng Nghymru.
RHEOLWR RHAGLEN FOROL – (teitl swydd mewnol, Rheolwr Datblygi Cronfa MARINE Cymru)
Categori Cymraeg: Dymunol
Llawn amser, 35 awr yr wythnos, yn hyblyg
£36,019 yn cynyddu i £38,009 y flwyddyn ar ôl cwblhau cyfnod prawf o chwe mis yn llwyddiannus. Bydd 9% o gyflog blynyddol y swydd yn cyfrannu at gynllun pensiwn cymeradwy CGGC.
Lleoliad: Hyblyg. Mae gennym swyddfeydd yn Aberystwyth, Caerdydd a’r Rhyl y gall staff eu defnyddio.
Darllenwch y swydd-ddisgrifiad swydd llawn.
PAM GWEITHIO YN CGGC?
Mae buddion yn cynnwys 25 diwrnod o wyliau â thâl ynghyd ag wyth gŵyl banc, Cynllun Pensiwn Personol, Rhaglen Cymorth i Weithwyr, Cynllun Tâl Salwch uwch, gweithio hyblyg, cynllun arian gofal iechyd.
Rydym yn fudiad sy’n croesawu amrywiaeth. Mae gennym bolisïau rhagorol er mwyn cael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, caiff gweithio hyblyg ei hybu, a’n diwylliant yw meithrin staff drwy arweinyddiaeth effeithiol a gwaith tîm rhagorol. Rydym yn falch o fod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.
Mae CGGC yn buddsoddi yn ei gyflogeion a’u datblygiad. Yn ogystal â bod yn Gyflogwr Cyflog Byw sy’n ymrwymedig i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i staff, mae CGGC wedi derbyn achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.
Rhagor o wybodaeth am weithio gyda CGGC.
SUT MAE GWNEUD CAIS
I ymgeisio, lawrlwythwch y pecyn cais isod:
Dyddiad cau: Dydd Mercher 15 January 2025, canol dydd
Dyddiad cyfweliad: TBC
Croesawir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.