Grŵp o bobl mewn cyfarfod anffurfiol, gan ganolbwyntio ar ddwy fenyw, un mewn cadair olwyn ac un yn defnyddio gliniadur

Swydd wag – Pennaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd : 07/08/23 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth |

Rydym yn cyflogi ar gyfer swydd Pennaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol, dysgwch beth allai gweithio yn CGGC ei wneud i chi.

PAM GWEITHIO YN CGGC?

Yma yn CGGC, rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o fuddion a chyflogaeth hyblyg sy’n gwneud gwahaniaeth.

Fel cyflogwr, gall CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru) gynnig nifer o fuddion fel gweithio’n hyblyg neu mewn modd hybrid, pensiwn ar 9% o’ch cyflog, a mynediad at raglen cymorth i gyflogeion.

Mae CGGC yn buddsoddi yn ei gyflogeion a’u datblygiad. Yn ogystal â bod yn Gyflogwr Cyflog Byw, sy’n ymrwymedig i dalu cyflog byw gwirioneddol i’w staff, mae CGGC wedi ennill achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.

Rhagor o wybodaeth am weithio i CGGC.

Pennaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Hyd: cyfnod mamolaeth am hyd at 12 mis o Medi/Hydref 2023.

Oriau: 35 awr yr wythnos, yn hyblyg

Lleoliad: Mae gan CGGC bolisi gweithio’n hyblyg ar waith, sy’n golygu y gall ein pobl weithio cyfran o’u hamser yn ein swyddfeydd neu o bell (gan gynnwys gartref). Rydyn ni’n fudiad Cymru-gyfan gyda chanolfannau yn Abergele, Aberystwyth a Chaerdydd. Bydd angen mynychu rhai digwyddiadau staff a galwadau gwaith penodol yn ein swyddfeydd

Cyflog: £38,485 yn cynyddu i £40,537 y flwyddyn ar ôl cwblhau cyfnod prawf o chwech mis yn llwyddiannus

Ynglŷn â’r rôl: 

Ydych chi’n frwdfrydig ynghylch y gwahaniaeth y mae elusennau a gwirfoddolwyr yn ei wneud i iechyd a lles yng Nghymru?  Ymunwch â ni i gefnogi’r sector, ac arwain gwaith dylanwadu CGGC ar iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae hwn yn gyfle gwych i rywun sydd â phrofiad o weithio ar lefel weithredol uwch mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn y sector cyhoeddus neu wirfoddol, i ymuno â thîm sy’n gweithio i ysgogi newid er mwyn sicrhau bod mudiadau gwirfoddol a gwirfoddolwyr yn cael eu gwerthfawrogi fel partneriaid cyfartal y gellir ymddiried ynddynt, sy’n rhan annatod o’r gwaith o ddarparu iechyd a gofal yng Nghymru.

Byddwch yn gweithredu fel pwynt cyswllt cenedlaethol a strategol ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru. Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill byddwch yn cefnogi gwaith ar y cyd i wneud y mwyaf o gyfraniad y sector gwirfoddol i agenda trawsnewid y llywodraeth ar gyfer Cymru Iachach.

Gallwch ddarganfod mwy am y swydd gan Sally Rees

Darllenwch y swydd-ddisgrifiad llawn yma.

SUT I WNEUD CAIS

I wneud cais, lawrlwythwch y pecyn ymgeisio isod:

Gwybodaeth ddefnyddiol

Hysbysiad preifatrwydd

Ffurflen gais

Dyddiad Cau: 30 Awst 2023 – 10 am

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn clywed gennym erbyn 1 Medi 2023 ac yn cael eu gwahodd i gyfweliadau a gynhelir ar 5 Medi 2023.

I gael gwybodaeth bellach, ffoniwch 029 2043 1741 neu ebostiwch people@wcva.cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Snorcelio dros natur

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy