A man faces a woman in conversation with an interested look on his face

Swydd gwag: Pennaeth Polisi

Cyhoeddwyd : 04/12/19 | Categorïau: Newyddion |

Ymunwch a thîm CGGC a helpwch ni i gryfhau ein gweithgareddau polisi a dylanwadu

 

PAM GWEITHIO YN CGGC?

Fel cyflogwr, mae Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn cynnig nifer o fuddion megis cynllun gweithio hyblyg, pensiwn o 9% o’ch cyflog, a mynediad i raglen cymorth i weithwyr.

Mae CGGC yn buddsoddi yn eu gweithwyr a’u datblygiad. Yn ogystal â bod yn Gyflogwr Cyflog Byw, wedi ymrwymo i dalu cyflog byw go iawn i staff, mae CGGC wedi eu gwbrwyo gyda’r achrediad Buddsoddi Mewn Pobl.

AM Y RÔL

Cyflog: £34,883 – £36,743 yn ddibynnol ar brofiad

Lleoliad: Caerdydd

Disgrifiad: Nod y swydd hon yw cryfhau polisi ein cleient a dylanwadu ar weithgaredd i gefnogi eu pwrpas. Mae hyn mewn ymateb uniongyrchol i adborth gan eu haelodau a’u partneriaid.

Bydd y swydd yn datblygu safbwyntiau polisi ar sail tystiolaeth, gan ganolbwyntio ar feysydd lle gallant wneud y gwahaniaeth mwyaf. Bydd y rôl yn helpu i roi aelodau wrth galon eu gwaith. Bydd yn galluogi cydweithredu agos â phartneriaid allanol yn ogystal â gweithio’n fewnol gyda thimau ar draws y sefydliad.

Bydd rhai o’ch cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys:

  • Sicrhau bod gwaith polisi yn seiliedig ar dystiolaeth, gan dynnu ar gyfranogiad gan aelodau a’r wybodaeth a’r dystiolaeth sydd ar gael ar draws y sefydliad
  • Datblygu a darparu cynllun dylanwadu, gan ymgysylltu ag aelodau a phartneriaid
  • Cydlynu gweithgaredd polisi ac ymgysylltu
  • Arwain y Rhwydwaith Ymarferwyr Dylanwadu ac Ymgysylltu
  • Rheoli gweithgaredd ymchwil
  • Rheoli’r gyllideb ar gyfer y swyddogaethau polisi ac ymchwil
  • Rheoli tîm sy’n gweithio ar bolisi ar ymchwil

Dyddiad cau: 9 Rhagfyr 2019

Cyfweliad:  18 Rhagfyr 2019

Ymgeisiwch ar wefan NFP-People.

Croesawir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau yn Saesneg.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 06/12/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Cyhoeddi enillydd bwrsariaeth arweinyddiaeth 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/12/24
Categorïau: Newyddion

Prosiect gwrth-hiliol o fudd i ysgolion yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/12/24
Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Cadwch y dyddiad – gofod3 2025

Darllen mwy