Yn ystod yr Wythnos Gwirfoddolwyr hon trown ein golygon tuag at y gwirfoddolwyr sydd wedi arddangos y mynegiadau mwyaf anhygoel o gefnogaeth mewn adegau o argyfwng, wrth i unigolion roi o’u hamser a’u hegni er mwyn cwrdd ag anghenion lleol mewn ffyrdd ymarferol.
Fe’i gwelsom gyda’r llifogydd diweddar. Fe’i gwelwn eto wrth i bobl ymateb i’r coronafeirws a chydag ymdrechion gwirfoddolwyr sy’n parhau yn ystod y cyfyngiadau symud.
Un o’r ardaloedd yr effeithiwyd arni waethaf gan Storm Dennis oedd Pontypridd, lle cafodd dros 680 o deuluoedd eu heffeithio. Daeth Canolfan Gymunedol Trallwn, sy’n cael ei rhedeg gan bwyllgor rheoli gwirfoddol, yn ganolbwynt i drigolion lleol. Sefydlwyd tudalen Facebook, derbyniwyd cynigion gan wirfoddolwyr a chofnodwyd ceisiadau. Cynigiodd fasnachwyr sgiliau, rhoddodd archfarchnadoedd fwyd a chynnyrch glanhau am ddim; darparodd swyddogion tai Rhondda Cynon Taf gefnogaeth ac roedd cyngor cyfreithiol ar gael am ddim. Gwirfoddolwyr, fodd bynnag, oedd y rhai a ddarparodd sgwrs gyfeillgar i’r trigolion, ynghyd â phryd o fwyd cynnes a’r cysur o wybod nad oedden nhw ar eu pen eu hunain.
Ymysg y gwirfoddolwyr a gynigiodd help llaw ym Mhontypridd oedd pobl ifanc o America, y Phillippines a Seland Newydd, a oedd yn y DU ar waith cenhadol.
Yna, wrth i’r gwaethaf o Storm Dennis ostegu, cyrhaeddodd pandemig y coronafeirws.
Grwpiau cefnogi anffurfiol
Mewn cymunedau lleol, mae grwpiau cefnogi anffurfiol wedi’u harwain gan wirfoddolwyr wedi datblygu’n gyflym. Maent wedi galluogi ymateb cymunedol lleol, gan gynnwys cyflenwi gwybodaeth, mynd ar negeseuon, a darparu cefnogaeth emosiynol i’r rheiny sy’n hunanynysu ac yn agored i niwed.
Yn ôl Tom Bowring, Pennaeth Polisi a Thrawsnewidiad Busnes gyda Chyngor Bro Morgannwg, ‘Yr hyn sy’n wych am y grwpiau yma yw eu hymatebolrwydd ar y lefel fwyaf lleol, sy’n galluogi mudiadau eraill sydd wedi’u sefydlu fel Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg, Age Connects a’r Banc Bwyd i weithio ar feysydd galw ac arbenigaeth eraill. Gyda phob haen yn gweithio gyda’i gilydd, fe’n galluogir ni fel awdurdod lleol i ganolbwyntio ar y bobl fwyaf agored i niwed. Mae hon yn enghraifft ardderchog o waith cymunedol gwirioneddol ar waith.’
Diolch. Gwnaeth y cyfraniadau a wnaethpwyd gan grwpiau anffurfiol o bell ac agos wahaniaeth aruthrol i fywydau’r bobl hynny mewn cymunedau sy’n wynebu’r trychineb a’r ansicrwydd ar adegau o argyfwng. Diolch.
Yr unigolion a gamodd i’r adwy
Ymysg yr ymateb cymunedol cyffredinol mae cannoedd o unigolion a ddaeth o hyd i ffyrdd o gyfrannu, gan ddefnyddio’u sgiliau a’u profiadau nhw eu hunain. Un enghraifft yw Jemma.
Mae Jemma a’i ffrindiau, er enghraifft, wedi canfod ffyrdd o wneud eu rhan. Wedi iddi gael ei rhoi ar ffyrlo gan ei chyflogwr ym mis Mawrth, cafodd Jemma ei hysbrydoli i wneud addaswyr ar gyfer masgiau wyneb PPE i weithwyr y GIG. Addaswyr sy’n dal yr elastig mewn masgiau fel eu bod yn ffitio’n ddiogel ac yn feddal a chyffyrddus. ‘Gwelais luniau o staff y rheng flaen â’u hwynebau a’u clustiau’n goch a phoenus ar ôl bod yn gwisgo masgiau a PPE am oriau hir,’ meddai. ‘Mae gen i nifer o ffrindiau da sy’n nyrsys, parafeddygon, radiograffwyr, fferyllwyr, bydwragedd a gweithwyr cartrefi gofal a ro’n i’n casáu meddwl amdanyn nhw’n dioddef.’ Mae Jemma a’i ffrindiau hefyd wedi bod wrthi’n gwneud masgiau, bagiau sgrybs, hetiau sgrybs a hetiau i fabanod a anwyd yn gynnar.
Mae miloedd o eitemau wedi eu hanfon i ysbytai yng Nghwmbrân, Casnewydd, Caerdydd a’r Fenni, ac i ysbytai yn Lloegr, gan gysylltu â’r rhai sydd eu hangen fwyaf trwy Helpforce Assist.
Diolch i’r unigolion o bob oed a gyfeiriodd eu doniau creadigol a’u hempathi tuag at weithredu i gefnogi eraill, ac mewn llawer o achosion, i gefnogi pobl nad oedden nhw’n eu hadnabod.
Y gwirfoddolwyr nad oedd modd iddynt barhau
Am bob unigolyn sydd wedi camu ymlaen i wirfoddoli, gwyddom fod yna wirfoddolwr sydd wedi camu yn ôl. Mae nifer sylweddol o wirfoddolwyr wedi gorfod rhoi’r gorau i wirfoddoli yn ystod pandemig y coronafeirws. I rai, golyga newid mewn blaenoriaethau, i eraill, rheolau’r cyfyngiadau symud, neu newidiadau yn amgylchiadau’r mudiad y maent yn gwirfoddoli iddo nad yw hi bellach yn bosibl iddynt fod yn wirfoddolwr gweithredol. Beth bynnag fo’r rheswm dros y saib dros dro neu barhaol mewn gwirfoddoli – rydym ni am ddweud DIOLCH. Caiff yr amser a roddoch cyn yr argyfwng ei werthfawrogi, ac mae’r gwahaniaeth a wnaethoch i bobl eraill yn bwysig. Diolch.
Pan na allai mudiadau sy’n ymgysylltu â gwirfoddolwyr barhau ‘Pan fydd pobl yn gwneud pethau da dros eraill, mae’n deimlad sy’n anodd ei anghofio – mae’r bobl sydd wedi gwneud hyn yn mynd i fod eisiau parhau, ond mae’n gorfod bod yn hyblyg’ @OWilce #DyfodolGwahanolCymru
Mae mudiadau gwirfoddol nad oedd modd iddynt barhau i ymgysylltu â’u gwirfoddolwyr wedi adleoli eu gwirfoddolwyr a’u hadnoddau er mwyn cwrdd ag anghenion newydd a chynyddol.
Recriwtiaid newydd
Camodd gwirfoddolwyr newydd i’r adwy i wneud yn iawn am y prinder yn ogystal ag i ehangu ar gapasiti a chyrhaeddiad gwasanaethau hanfodol mudiadau.
Mae dros 17,000 o unigolion wedi cofrestru ar wefan Gwirfoddoli Cymru, yn awyddus i helpu yn ystod argyfwng Covid-19, ac roedd y rhain yn cynnwys tipyn mwy o ddynion yn gwirfoddoli na fyddai fel arfer yn gwneud. Mae Cynghorau Gwirfoddoli Sirol Lleol (CVCs) wedi bod yn adnabod y ffordd orau o gynnwys gwirfoddolwyr yn lleol ac yn cyfateb unigolion â’r mannau lle ceir angen amdanynt.
Mae gwirfoddolwyr cymunedol sy’n galluogi pobl i aros gartref yn ddiogel yn helpu i leihau’r pwysau ar y GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol.
Diolch i’r holl bobl hynny nad ydynt wedi gwirfoddoli o’r blaen, a welodd bod angen amdanynt ac a gynigodd eu gwasanaeth er mwyn bod yn arwyr cymunedol.
Darparwyr NHS a gofal cymdeithasol
Mae Byrddau Iechyd wedi adolygu ac ailgyfeirio eu ‘gweithlu’ presennol o staff, myfyrwyr ar hyfforddiant a gwirfoddolwyr ac fe gawsant eu syfrdanu gan ymholiadau gan wirfoddolwyr newydd.
Maen nhw wedi bod yn brysur yn recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr fel eu bod yn barod i gwrdd â gofynion newydd a allai godi – er enghraifft wrth redeg yr ysbytai maes newydd. Mynegodd y Dirprwy Weinidog, Jane Hutt, ei diolch yn yr erthygl hon wrth i 360 o bobl gynnig eu henwau i helpu yn yr ysbytai maes yn Sir Gaerfyrddin.
Diolch. Mae’r GIG a darparwyr gofal cymdeithasol yn parhau’n ddiolchgar am gyfraniad gwirfoddolwyr i’r modd y caiff gofal cleifion a chymunedau eu darparu gan y gwasanaethau hyn. Diolch.
Cefnogaeth i’r gymuned fusnes
Gyda staff medrus yn cael eu rhoi ar ffyrlo o’u cyflogaeth arferol, fe ymunodd y staff yma yn yr ymdrechion gwirfoddoli i gefnogi’r rheiny yr effeithiwyd arnynt gan y feirws.
Mae Volunteering Matters wedi cysylltu â chyflogwyr o Cadent, Calon Energy, y Grid Cenedlaethol a QBE i alluogi cyflogwyr i wneud galwadau rheolaidd i bobl agored i niwed yn eu cartrefi yng Nghasnewydd. Mae nifer o’r gwirfoddolwyr hyn wedi eu rhoi ar ffyrlo; mae eraill yn gwirfoddoli o fewn eu polisi Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol a chyda cefnogaeth lawn eu cyflogwr. ‘Dyma’r bartneriaeth orau i Volunteering Matters a chefnogaeth gadarnhaol i’r gymuned’ meddai Valerie Brittin, Swyddog Prosiect, Volunteering Matters.
Diolch i’r gymuned fusnes am yr egni a’r adnoddau rydych chi wedi eu rhoi i gymunedau lleol ac i gefnogi mudiadau gwirfoddol. Mae eich amser chi ac amser eich staff a’ch cwsmeriaid wedi gwneud gwahaniaeth enfawr.
Ymunwch â ni i ddweud diolch
Ar draws ein teuluoedd; trwy ein ffrindiau a’n cydweithwyr, ein cymdogion a’n cymunedau; disgwylir ein bod ni i gyd wedi teimlo, gweld neu glywed caredigrwydd pobl eraill. P’un ai bod hyn wedi helpu mewn ffordd fechan neu ffordd enfawr, mae gwneud bywyd rhywun fymryn yn fwy disglair neu fymryn yn haws yn ystod argyfwng, boed hwnnw’r argyfwng a wynebwn heddiw neu un a wynebwyd dro yn ôl, yn rhywbeth gwerth chweil. Gan fod yr wythnos hon yn Wythnos Gwirfoddolwyr genedlaethol, anogwn unrhyw un sy’n adnabod rhywun sydd wedi gwirfoddoli i ddweud diolch ac i fynegi neges o werthfawrogiad. Eich dewis chi yw sut i ddweud diolch. Un ffordd y byddwn yn dweud diolch i chi fel cenedl yw gyda’r #ClapiWirfoddolwyr ar gerrig ein drysau am 8yh ar nos Iau 4ydd Mehefin. Gobeithiwn y byddwch yn ymuno â ni.