Tu allan Senedd Cymru

Sut mae’r Rhaglen Lywodraethu newydd yn rhoi sylw i’r sector gwirfoddol

Cyhoeddwyd : 15/06/21 | Categorïau: Dylanwadu |

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Rhaglen Lywodraethu ar gyfer tymor nesaf y Senedd.

Mae’r Rhaglen yn crybwyll y sector gwirfoddol yn uniongyrchol mewn ambell i le. Mae’n ymrwymo i ‘barhau â’n partneriaeth gref â mudiadau gwirfoddol ar draws ein holl gyfrifoldebau’, yn ogystal â chefnogi ‘traddodiad hir Cymru o wirfoddoli, elusennau lleol, grwpiau ffydd a mudiadau cymunedol’. Rydym yn croesawu hyn, ond mae CGGC yn credu mai nawr yw’r amser i fynd ati i ymdrin â pholisi cymunedau a gwirfoddoli mewn modd cynhwysfawr.

Mewn addewidion sy’n ymwneud â meysydd penodol o weithgarwch y sector, mae Llywodraeth Cymru yn dweud y byddant yn gwneud y canlynol:

  • Cyflwyno fframwaith Cymru gyfan i gyflwyno presgripsiynu cymdeithasol er mwyn mynd i’r afael ag ynysu.
  • Diwygio gofal sylfaenol, gan gyfuno gwasanaethau meddygon teulu gyda fferylliaeth, therapi, tai, gofal cymdeithasol, iechyd meddwl, cymuned a’r trydydd sector.
  • Talu’r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal.
  • Cefnogi datblygiadau tai arloesol er mwyn diwallu anghenion gofal.
  • Rhoi partneriaeth gymdeithasol ar yr un lefel statudol drwy’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru).
  • Defnyddio’r rhwydwaith newydd o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl i helpu i gau’r bwlch rhwng pobl anabl a gweddill y boblogaeth waith.
  • Cefnogi’r gwaith o greu Banc Cymunedol i Gymru.
  • Datblygu Strategaeth Bwyd Cymunedol i Gymru.
  • Cefnogi 80 o ganolfannau ail-ddefnyddio a thrwsio yng nghanol trefi.
  • Gweithredu a chyllido’r ymrwymiadau a wnaed yn ein Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol.
  • Peilota dull o weithredu’r Incwm Sylfaenol.
  • Creu Cynllun Tai Cymunedau Iaith Gymraeg.
  • Adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel i’w rhentu.
  • Diwygio gwasanaethau digartrefedd yn sylfaenol er mwyn canolbwyntio ar atal ac ailgartrefu cyflym.
  • Cefnogi tai cydweithredol, mentrau a arweinir gan gymunedau ac ymddiriedolaethau tir cymunedol.
  • Lansio Cynllun Buddsoddi 10 mlynedd newydd yn Seilwaith Cymru gyfer economi ddi-garbon.
  • Rhoi ein Strategaeth Drafnidiaeth newydd i Gymru ar waith.

Os hoffech weld mwy am sut rydyn ni’n credu y gall y sector gwirfoddol a Llywodraeth Cymru weithio gyda’i gilydd i wella bywydau pobl yng Nghymru, gweler maniffesto CGGC ar gyfer y sector gwirfoddol.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 14/09/23 | Categorïau: Cyllid | Dylanwadu |

Cyllid datblygu rhanbarthol ar ôl gadael yr UE

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 11/09/23 | Categorïau: Dylanwadu |

Ailgydbwyso iechyd & gofal: ‘adnoddau cyfyngedig’ yn rhwystr i’r weledigaeth

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 16/06/23 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Newyddion |

Gwobrau Elusennau Cymru 2023 – Wythnos i fynd!

Darllen mwy