Sut mae eich mudiad wedi cael ei effeithio gan COVID-19?

Sut mae eich mudiad wedi cael ei effeithio gan COVID-19?

Cyhoeddwyd : 05/03/21 | Categorïau: Dylanwadu |

Mae gan CGGC ddiddordeb mewn dysgu mwy am effaith COVID-19ar y sector gwirfoddol yng Nghymru, yn enwedig mewn perthynas ag elusennau’r DU sy’n gweithredu yng Nghymru.

Rydyn ni wedi creu arolwg ar gyfer pawb sy’n gweithio (neu a oedd yn gweithio, hyd at ddechrau pandemig COVID-19) yn y sector gwirfoddol yng Nghymru i ddweud eu dweud ar y pwnc.

Mae’r arolwg hwn wedi’i ddatblygu i asesu i ba raddau y mae elusennau â’u phencadlysoedd yn y DU sy’n gweithredu yng Nghymru yn lleihau eu presenoldeb yng Nghymru yn dilyn pandemig  COVID-19, effaith bosibl hyn ar y sector gwirfoddol a’r bobl sy’n dibynnu arno, ac a ddylai CGGC a/neu Lywodraeth Cymru fod yn cymryd unrhyw gamau i ymateb i hyn.

Bydd yr holl atebion yn gyfrinachol ac yn ddienw, ond mae cyfle i gysylltu ag ymchwilydd CGGC os ydych chi’n teimlo bod gennych chi ragor i’w ddweud wrthym am y pwnc hwn. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar ddiwedd yr arolwg.

Bydd yn cymryd tua saith munud i gwblhau’r arolwg hwn.

Sicrhewch eich bod yn cymryd yr amser i ddweud eich dweud ar sut mae’r pandemig wedi effeithio arnoch chi a’ch mudiad. Bydd yn ein helpu’n fawr i ddeall ymhellach sut mae’r pandemig wedi bwrw mudiadau’r sector gwirfoddol ledled y wlad.

Cofrestrwch i gael ein cylchlythyr COVID-19  er mwyn cael y newyddion diweddaraf am y pandemig a’i effeithiau ar y sector gwirfoddol yng Nghymru wedi’i anfon yn syth i’ch mewnflwch.

NEWYDDION COVID-19 DIWEDDARAF

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Perthnasau rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/03/24 | Categorïau: Dylanwadu |

Awgrymiadau Mark Drakeford ar gyfer dylanwadu ar bolisïau’r llywodraeth

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 16/02/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwybodaeth a chymorth |

Cynllun gweithlu yn chwilio am fewnwelediad i rôl gwirfoddolwyr mewn lleoliadau iechyd meddwl

Darllen mwy