Sut i sicrhau diogelwch gwirfoddolwyr yn ystod y cyfnod clo

Sut i sicrhau diogelwch gwirfoddolwyr yn ystod y cyfnod clo

Cyhoeddwyd : 01/02/21 | Categorïau: Gwirfoddoli |

Mae gwirfoddolwyr wedi gwneud gwahaniaeth enfawr yn ystod y pandemig. Dyma sut i gadw eich gwirfoddolwyr yn ddiogel, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, wrth iddyn nhw gefnogi eu cymunedau.

Mae ymdrechion gwirfoddol ffurfiol ac anffurfiol wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i unigolion a chymunedau yng Nghymru ers dechrau pandemig COVID-19. Mae’r math hwn o gymorth yn galluogi pobl i hunanynysu pan fo angen a chadw mewn cysylltiad.

Nawr bod y gyfradd heintio ar ei huchaf a mwy a mwy o achosion o bobl yn dal straeniau newydd, mwy heintus fyth o’r feirws, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn sicrhau bod cymorth gwirfoddolwyr yn cael ei gyflawni mewn modd diogel. Isod, ceir canllawiau cyflym ar gyfer mudiadau a rhwydweithiau yn y gymuned sydd eisiau gwneud profiad eu gwirfoddolwyr mor ddiogel â phosibl. I gael canllawiau mwy manwl, edrychwch ar ein canllawiau ar ymateb cymunedol ac ymarfer diogel.

SUT GALLWN NI SICRHAU GWIRFODDOLI DIOGEL?

  • Dylai mudiadau gynnal asesiad risg o weithgareddau gwirfoddolwyr (ac o’r gwirfoddolwyr eu hunain) a rhoi mesurau ar waith i leihau heintio.
  • Dylent hyfforddi a chefnogi gwirfoddolwyr i gyflawni eu rolau mewn modd diogel. Gellid adleoli gwirfoddolwyr profiadol i wneud gweithgareddau mwy brys neu risg uchel mewn rhai achosion, yn ôl yr angen.
  • Dylai mudiadau addasu rolau gwirfoddoli lle bynnag y bo’n bosibl fel y gellir gwirfoddoli o gartref, gan ddefnyddio ffôn neu ryngrwyd er enghraifft.
  • Yn ystod COVID-19, mae mudiadau gwirfoddol wedi dechrau cydweithio’n agos, gan fanteisio ar gryfderau ac arbenigeddau ei gilydd. Er enghraifft, gall cynlluniau cludiant cymunedol lleol fod mewn safle da i gludo unigolion i apwyntiadau yn ddiogel, gan gynnwys i gael brechiadau.
  • Rhaid atgyfnerthu negeseuon allweddol gyda gwirfoddolwyr ynghylch yr angen i ddilyn protocolau cytunedig, gan gynnwys mesurau hylendid a chadw pellter cymdeithasol cymaint â phosibl.
  • I lawer o wirfoddolwyr, mae cwrdd â phobl eraill yn rhan bwysig o’r profiad. Gan gydnabod hyn, mae llawer o fudiadau yn dod o hyd i ffyrdd o gyflwyno cyfleoedd i wirfoddolwyr gysylltu â’i gilydd ar-lein, i gael trafodaeth grŵp neu wneud gweithgaredd cymdeithasol.

RHWYDWEITHIAU YN Y GYMUNED

Mae rhwydweithiau cymunedol ar waith mewn cymdogaethau lleol, gan gynnwys gwirfoddolwyr wrth ymateb i anghenion unigolion fesul tasg.

Maen nhw hefyd yn gyfrifol am sicrhau ymarfer diogel, er enghraifft, drwy roi hyfforddiant ac arweiniad i’r rheini sy’n gwirfoddoli a chyflwyno gwybodaeth i fuddiolwyr am sut i gadw’n ddiogel a’r hyn y gallant eu disgwyl gan wirfoddolwyr.

CANLLAWIAU PELLACH

Rydyn ni wedi diweddaru ein canllawiau ar ymateb cymunedol ac ymarfer diogel yn ddiweddar yn ystod y cyfnod clo.

Mae’r canllawiau hyn, sy’n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol i bobl sy’n dymuno gwirfoddoli a’r rheini sy’n trefnu mentrau ymateb cymunedol, wedi’u hysgrifennu er mwyn helpu i gefnogi’r ymateb anhygoel gan wirfoddolwyr cymunedol a sbardunwyd gan ddechreuad COVID-19.

 

Ymunwch â rhestr bostio CGGC i gael newyddion i’r sector gwirfoddol yn syth i’ch mewnflwch

* yn dynodi maes angenrheidiol





 

Rhestrau*


Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 02/08/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Adroddiad yn dangos bod gwirfoddoli yn cynyddu sgiliau a hyder

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 12/07/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Rôl gwirfoddoli mewn cartrefi gofal yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Perthnasau rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol

Darllen mwy