Mae cyfranogwyr y digwyddiad yn eistedd wrth fwrdd ac yn chwerthin gyda'r hyfforddwr

Sut i helpu’ch mudiad i ddylanwadu ar Senedd y DU

Cyhoeddwyd : 10/09/20 | Categorïau: Dylanwadu |

Mae Senedd y DU wedi lansio amrediad o weithdai ar-lein i helpu mudiadau Cymru i ddeall sut mae Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi yn gweithio, sut i ddylanwadu ar benderfyniadau, lleisio’u barn ac ymgyrchu dros newid.

Cyflwynir y gweithdai gan Steven Williams, Swyddog Allgymorth Senedd y DU dros Gymru, a gellir eu teilwra i anghenion unigol bob grŵp. Mae’r gweithdai’n cynnwys:

Pobl, pŵer a Senedd y DU: Cyflwyniad 

Mae’r gweithdy 30 munud hwn ar gyfer o leiaf 15 o bobl. Bydd grwpiau’n cael trosolwg llawn o sut mae Senedd y DU yn gweithio iddyn nhw, a bydd yn cynnwys:

  • Sut gallant leisio’u barn gydag Aelodau Seneddol
  • Beth mae Tŷ’r Arglwyddi yn ei wneud
  • Sut mae Aelodau Seneddol ac Arglwyddi’n codi materion ar eu rhan

Ydych chi’n ddylanwadol? Lleisiwch eich barn yn Senedd y DU

Mae’r gweithdy un awr o hyd hwn wedi’i ddylunio ar gyfer o leiaf 10 unigolyn ac wedi’i greu’n arbennig ar gyfer y rheini sydd wedi cael ychydig o gysylltiad â’r Senedd o’r blaen. Bydd mynychwyr yn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o sut i godi’r materion sydd agosaf at eu calonnau, gan gynnwys:

  • Sut gallant weithredu
  • Pa offer sy’n helpu i ddylanwadu ar drafodaethau, penderfyniadau a deddfwriaeth
  • Sut gallant feithrin cydberthynas ag Aelodau Seneddol ac Arglwyddi

GRYMUSO! Ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu

Mae’r sesiwn hon yn para am 45 munud fel arfer ac mae’n llawn gweithgareddau a chwisiau i hybu ymgysylltu ac annog oedolion ag anawsterau dysgu i ddatblygu sgiliau dinasyddiaeth gweithredol am oes.

Mae’r sesiwn wedi’i dylunio ar gyfer o leiaf 10 unigolyn, gan gynnwys gofalwyr ac arweinwyr grŵp.

Dywedodd Steven Williams: ‘Mae’n bwysig y gall lleisiau’r Cymry barhau i gael eu clywed yn San Steffan ac rwyf eisiau dangos i bobl sut gallant wneud hyn – o ymgysylltu ag Aelodau Seneddol ac Arglwyddi, i greu deisebau, cyflwyno tystiolaeth a mwy.

‘Mae’r gweithdai ar-lein am ddim hyn yn ffordd wych i fudiadau ledled Cymru ddysgu mwy am ein democratiaeth. Drwy gynnig cyngor ymarferol ac adnoddau defnyddiol, gall grwpiau greu newid cadarnhaol ar gyfer eu cymunedau, ym mhob rhan o’r wlad.’

I wirio a oes lle ar gael a bwcio sesiwn, ewch i Gwefan Senedd y DU (Saesneg yn unig).

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Dylanwadu | Newyddion |

Llythyr agored i’r cabinet newydd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Perthnasau rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/03/24 | Categorïau: Dylanwadu |

Awgrymiadau Mark Drakeford ar gyfer dylanwadu ar bolisïau’r llywodraeth

Darllen mwy