Dynes a dyn oedrannus yn sefyll gyda'i gilydd ac yn gwenu

Mae’n Wythnos Elusennau Cymru 2024

Cyhoeddwyd : 04/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Mae Wythnos Elusennau Cymru yn digwydd yr wythnos hon, rhwng 25 – 29 Tachwedd 2024, gan gydnabod gwaith da elusennau, mentrau cymdeithasol, mudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol a gwirfoddol yng Nghymru.

AM WYTHNOS ELUSENNAU CYMRU

Mae gan Gymru hanes hir, chwedlonol o wirfoddoli a gweithredu gwirfoddol sy’n parhau i fod yn rhan fawr o ddiwylliant Cymru heddiw. Mae elusennau nid yn unig yn help llaw i’r rhai mwyaf agored i niwed, maent yno i bobl yn yr amseroedd da a’r drwg, gan gymryd camau sy’n edrych yn fach ond sy’n ychwanegu at wahaniaeth mawr.

Mae Wythnos Elusennau Cymru yn gyfle i gydnabod a dathlu’r holl waith mae pobl a mudiadau ar draws y sector gwirfoddol yng Nghymru yn ei wneud i daflu ychydig o oleuni ar y tywyllwch. Mae’n gyfle i ddod ynghyd a dangos gwerthfawrogiad, i atgoffa pobl bod yr hyn maen nhw’n ei wneud yn gwneud gwahaniaeth.

Yn ystod yr wythnos byddwn yn rhannu straeon, yn dweud diolch ac yn tynnu sylw at y gwaith da y mae pobl Cymru yn ei wneud. Rydyn ni am i’r sector cyfan gymryd rhan, boed yn elusennau, gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol neu fentrau cymdeithasol, rydyn ni am glywed am y cyfan.

CYMRYD RHAN

Oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan yn #WythnosElusennauCymru 2024? Os felly, mae llawer o ffyrdd hawdd o wneud, pam ddim…

  • RHANNWCH FIDEO BYR: Creu fideo am eich gwaith ar gyfryngau cymdeithasol a chofiwch ddefnyddio #WythnosElusennauCymru. Rydyn ni wedi creu canllaw syml ar sut i greu eich fideo sydd i’w weld ar wefan Wythnos Elusennau Cymru.
  • RHOWCH SYLW I’CH STAFF NEU WIRFODDOLWYR: Dywedwch wrth y byd am aelod o staff, gwirfoddolwr neu dîm a’r gwahaniaeth maen nhw’n ei wneud trwy bostio ar gyfryngau cymdeithasol, neu drefnu dathliad ar eu cyfer gan ddefnyddio un o’n Pecynnau Parti sydd ar gael ar wefan Wythnos Elusennau Cymru. Postiwch eich neges diolch ac unrhyw luniau sydd gennych ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #WythnosElusennauCymru (gwnewch yn siŵr bod gennych ganiatâd pawb dan sylw).
  • RHANNWCH Y PECYN YMGYRCHU: Anfonwch becyn ymgyrchu Wythnos Elusennau Cymru at eich ffrindiau, cefnogwyr a phartneriaid a gofyn iddyn nhw gefnogi eich gwaith drwy gymryd rhan yn Wythnos Elusennau Cymru.

HELPWCH NI I DDATHLU’R SECTOR

Cadwch lygad ar yr hashnod #WythnosElusennauCymru ar gyfryngau cymdeithasol, lle byddwn yn postio ac yn ail-bostio am y straeon sydd bwysicaf i chi. Byddem wrth ein bodd yn cael eich cefnogaeth i ledaenu’r neges am Wythnos Elusennau Cymru 2024. Ar wefan Wythnos Elusennau Cymru fe welwch y pecyn ymgyrchu sy’n cynnig amrywiaeth o syniadau i helpu eich cefnogwyr i gymryd rhan yn Wythnos Elusennau Cymru a’n pecyn mudiadau gwirfoddol yn cynnwys adnoddau i helpu i ledaenu’r gair am yr wythnos ymhell ac agos.

Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer ein rhestr postio i gael gwybodaeth am Wythnos Elusennau Cymru yn syth i’ch blwch post.

GWIRFODDOLI CYMRU

Mae Wythnos Elusennau Cymru yn amser gwych i bobl roi rhywbeth yn ôl, trwy ddangos gwerthfawrogiad, codi arian neu hyd yn oed wirfoddoli. Gyda llwyfan gwell Gwirfoddoli Cymru mae’n haws nag erioed i wirfoddolwyr gofrestru a rhoi eu profiad a’u hewyllys da i’r sector, ac nid oes amser gwell i gofrestru nag yn awr.

Cofrestrwch eich cyfleoedd gwirfoddoli am ddim yn gwirfoddoli-cymru.net.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 11/07/25
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Gwasanaethau cwnsela a chefnogaeth i fudiadau gwirfoddol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 24/06/25
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Enwebiadau Gwobrau Elusennau Cymru yn cau yn fuan

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 28/05/25
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Deall ymdrechion codi arian yng Nghymru

Darllen mwy