Dewch i weld sut gallwch chi ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial ac offer digidol eraill i wella eich sgiliau digidol fel rhan o gyfres o weminarau am ddim ar gyfer sector gwirfoddol Cymru.
Fel rhan o Brosiect Cymorth Digidol Trydydd Sector ProMo-Cymru, sy’n dangos sut gall tueddiadau ac offer digidol gwahanol gefnogi eich gwaith, bydd y Gweminarau Sgiliau Digidol rhad ac am ddim hyn yn treiddio i fyd TikTok, Canva a hyd yn oed Deallusrwydd Artiffisial gyda Dr Irina Mirkina, Arweinydd Deallusrwydd Artiffisial yn Swyddfa Arloesedd UNICEF.
GWEMINARAU SGILIAU DIGIDOL
Bydd y sesiynau blasu 45 munud hyn yn cyflwyno rhai offer digidol defnyddiol a fydd yn gallu eich helpu chi i wella eich gwasanaeth. Gallwch ddod i un sesiwn neu i’r tri.
TIKTOK
Dydd Llun 9 Hydref 2023, 11.30 am – 12.15 pm
Cyflwynir gan: Lucy Palmer, Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu, ProMo-Cymru
Pendroni os dylai’ch mudiad chi fod ar TikTok? Gallem helpu gyda’r ateb! Darganfod potensial gwych cynigir gan y llwyfan yma i godi ymwybyddiaeth, cyrraedd cynulleidfaoedd newydd, a chreu cymuned.
CANVA
Dydd Mawrth 10 Hydref 2023, 11.30 am – 12.15 pm
Cyflwynir gan: Daniele Mele, Dylunydd a Chynhyrchydd Cyfryngau, ProMo-Cymru
Mae Canva yn llwyfan dylunio graffeg ar-lein sydd yn caniatáu i ddefnyddwyr greu amrywiaeth eang o gynnwys gweledol, gan gynnwys graffeg, cyflwyniad, post cyfryngau cymdeithasol, poster, taflen, a mwy. Mae’n gyfeillgar iawn i’r defnyddiwr ac yn agored i unigolion a busnesau sydd ag ychydig iawn (neu ddim) profiad dylunio graffeg. Bydd Daniele yn rhannu blynyddoedd o brofiad dylunio, yn eich helpu chi i gael hyder i gymryd eich camau cyntaf i mewn i ddylunio graffeg a chreu cynnwys.
DEALLUSRWYDD ARTIFFISIAL
Dydd Mercher 11 Hydref 2023, 11.30 am – 12.15 pm
Cyflwynir gan: Andrew Collins, Uwch Reolwr Digidol, ProMo-Cymru
Ydych chi’n barod i drochi’ch hun ym myd Deallusrwydd Artiffisial (AI) a darganfod budd offer fel ChatGPT a GoogleBard? Ymunwch â ni am weminar llawn gwybodaeth sydd yn gyfeillgar i rai sy’n newydd i’r pwnc, gyda’r bwriad o’ch helpu i ddeall y dechnoleg newydd a chyffrous yma.
DEALLUSRWYDD ARTIFFISIAL ER DA: DIGWYDDIAD SIARADWR GYDA DR IRINA MIRKINA
Dydd Mercher 25 Hydref 2023, 2 – 3 pm Ar-lein (Zoom)
Mae’r penawdau a’r straeon ynghylch Deallusrwydd Artiffisial wedi gadael llawer ohonom ni’n bryderus ynghylch y dyfodol, ond mae gan ddeallusrwydd artiffisial y potensial i newid y ffordd y mae mudiadau gwirfoddol yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau ar gyfer y bobl rydyn ni’n eu cefnogi er gwell.
Ymunwch â ni am ddigwyddiad gyda Dr Irina Mirkina, Arweinydd Deallusrwydd Artiffisial Swyddfa Arloesedd UNICEF, wrth iddi edrych ar risgiau a buddion Deallusrwydd Artiffisial.
Mae Irina Mirkina yn strategydd deallusrwydd artiffisial ac yn arbenigwr blaenllaw ar ddeallusrwydd artiffisial cyfrifol. Gan weithio ar gynyddu ymwybyddiaeth fyd-eang o risgiau a buddion deallusrwydd artiffisial, Dr Mirkina yw Arweinydd Deallusrwydd Artiffisial presennol Swyddfa Arloesedd Cronfa Ryngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Plant (UNICEF). Ar ôl datblygu gyrfa lwyddiannus yn y byd academaidd a’r sector preifat, ymunodd ag UNICEF i weithio ar ddatblygu a defnyddio systemau deallusrwydd artiffisial moesol sy’n parchu hawliau plant ac yn achub bywydau plant. Ar hyn o bryd, mae’n Gyd-gadeirydd Cymuned Ymarfer ar ddeallusrwydd artiffisial ar gyfer y Digital Public Goods Alliance, yn gyd-drefnydd Grŵp Ymarfer deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol y Cenhedloedd Unedig, yn aelod o Weithgor Rhyngasiantaeth y Cenhedloedd Unedig ar ddeallusrwydd artiffisial, ar Weithgor Cyhoeddus deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol NIST, a Chymuned Ymarfer deallusrwydd artiffisial Cyfartal USAID ac yn arbenigwr ar gyfer yr European Commission Research Executive Agency. Mae wedi’i chynnwys yn y cyfeiriadur agored, ‘Women in AI Ethics™.
Os hoffech chi ddod i’r digwyddiadau yma gallwch chi gadw le trwy ddefnyddio’r dolenni isod, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau gallwch anfon e-bost at bookings@wcva.cymru
Gweminar Sgiliau Digidol: TikTok
Gweminar Sgiliau Digidol: Canva
Gweminar Sgiliau Digidol: Deallusrwydd Artiffisial
Deallusrwydd artiffisial er da: digwyddiad siaradwr gyda Dr Irina Mirkina