Rydym yn cynnal arolwg i ddarganfod sut y gall y sector gwirfoddol weithio’n well gyda Llywodraeth Cymru ar yr adferiad o COVID-19 yn dilyn etholiadau mis Mai.
Gwnaeth Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau’r Senedd gyhoeddi eu hadroddiad yn ddiweddar ar effaith pandemig COVID-19 ar y sector gwirfoddol yng Nghymru, gan wneud nifer o argymhellion.
Mae 20 o argymhellion i gyd, sy’n ymwneud â chyllid, gweithio mewn partneriaeth, gwirfoddoli a mwy.
O’r 20 o argymhellion hyn, hoffai CGGC a rhwydwaith iechyd, gofal cymdeithasol a lles y sector gwirfoddol wybod pa rai penodol y mae’r sector yn awyddus i weithio arnynt gyda Llywodraeth Cymru yn dilyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai. Gallai hyn gael effaith enfawr ar sut bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda’r sector ar yr adferiad o’r pandemig.
Edrychwch ar y rhestr o argymhellion ac yna atebwch y cwestiynau canlynol. Gellir gweld yr argymhellion ar y ddolen i’r arolwg hefyd.
Dylai’r arolwg hwn gymryd oddeutu pump i ddeg munud i’w gwblhau. Bydd yn cau ar 1 Mai 2021.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â David Cook, Swyddog Polisi CGGC, yn dcook@wcva.cymru.
***
Argymhellion o adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar effaith pandemig COVID-19 ar y sector gwirfoddol yng Nghymru.
Argymhellion sector cyffredinol
- Bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod y rôl y mae’r strwythur gwirfoddol presennol wedi’i chwarae wrth wella’r ymateb i’r pandemig. Byddem yn annog unrhyw Lywodraeth Cymru yn y dyfodol i gynnal seilwaith presennol y trydydd sector, ac i geisio gweld sut y gellir gwella’r strwythurau hyn a’u gwneud hyd yn oed yn fwy cadarn
- Bod Llywodraeth Cymru yn monitro unrhyw newid sylweddol ym mhresenoldeb y sector gwirfoddol yng Nghymru er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru yn y dyfodol i ymgysylltu â’r elusennau hyn a’u hannog i adfer eu presenoldeb yng Nghymru pan fyddant mewn sefyllfa i wneud hynny
Ymateb i’r pandemig
a. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda rhanddeiliaid i adolygu rôl y sector gwirfoddol wrth ymateb i argyfyngau yn y dyfodol. Dylai hyn gynnwys:
▪ Nodi a chydnabod yn glir rôl hanfodol y sector gwirfoddol wrth ymateb i argyfyngau;
▪ Rhannu arferion gorau o’r ymateb i’r pandemig a’r llifogydd yn 2020; ac
▪ Asesu i ba raddau y mae’r sector gwirfoddol wedi’i integreiddio i strwythurau cynllunio ar gyfer argyfwng ffurfiol ac anffurfiol a sut y gellir cryfhau partneriaethau
b. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Chyngor Partneriaeth y Trydydd Sector i sicrhau bod y strategaeth ddigidol sydd ar y gweill ar gyfer Cymru yn adlewyrchu gwaith y sector gwirfoddol yn llawn a’r symud tuag at ddarparu gwasanaethau’n ddigidol.
Gweithio mewn partneriaeth
c. Dylai Llywodraeth Cymru adolygu effeithiolrwydd gwaith partneriaeth ledled Cymru yn ystod y pandemig. Dylai’r adolygiad nodi arferion da y gellir eu hefelychu ledled Cymru ac ystyried a oes angen cryfhau mecanweithiau ffurfiol i sicrhau bod cyd-gynhyrchu a gwaith partneriaeth ystyrlon rhwng cyrff statudol, cyrff anstatudol, a dinasyddion
Gwirfoddoli
ch. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r sector gwirfoddol i nodi meysydd ar draws ei gwaith lle gall gwirfoddoli gefnogi’r adferiad, gwasanaethau cyhoeddus a llesiant ar ôl COVID-19
d. Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu rhaglen o rymuso cymunedau ledled Cymru gyda’r sector gwirfoddol, gan weithredu fel gwladwriaeth alluogi ar gyfer gweithredu cymunedol. Rydym yn cefnogi galwad CGGC y dylai hyn gynnwys Cronfa Cyfoeth Gymunedol a deddfwriaeth i ddarparu mwy o allu i gymunedau gymryd rhan mewn gweithredu lleol
dd. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda rhanddeiliaid i archwilio cyfleoedd i alluogi grwpiau cymunedol newydd a ffurfiwyd yn ystod y pandemig sydd am barhau ac sydd wedi bod yn cynorthwyo eu cymunedau lleol yn llwyddiannus, i dderbyn y cymorth a’r cyngor sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu gwaith
Cyllid a chymorth
e. Gan adeiladu ar Gronfa Gwydnwch y Trydydd Sector, dylai Llywodraeth Cymru ddarparu cyllid i gynyddu cydnerthedd y sector a’i allu i chwarae ei ran wrth roi cymorth yn y fan a’r lle i gymunedau yn ystod yr adferiad. O ystyried hyd yr argyfwng, dylid ystyried ymestyn hyn y tu hwnt i’r flwyddyn ariannol gyfredol
f. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Fforwm Cyllidwyr Cymru i helpu cyllidwyr i barhau i rannu gwybodaeth a chydweithio ar ôl y pandemig
ff. Dylai Llywodraeth Cymru, lle bo hynny’n briodol, archwilio ac ymchwilio i ganiatáu i gyllid heb ei wario gael ei gario ymlaen i’r flwyddyn ariannol nesaf
g. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried yr heriau penodol sy’n wynebu sefydliadau sector gwirfoddol BAME, wrth ystyried cyllid ar gyfer y trydydd sector. Dylai hyn gynnwys ystyried unrhyw rwystrau ychwanegol y gallai grwpiau BAME eu hwynebu wrth gael cyllid a weinyddir gan Lywodraeth Cymru a gweithio i leihau’r rhwystrau hyn
ng. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried a myfyrio ar ganfyddiadau adroddiad Yn Uchel ac yn Groch Sefydliad Cymunedol Cymru ac annog cyllidwyr i gefnogi costau craidd fel bod gan sefydliadau y rhyddid i addasu mewn sefyllfaoedd sy’n bythol newid er mwyn cynnal a datblygu canlyniadau gwasanaethau neu raglenni allweddol
h. Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ynghylch effaith rhwymedigaethau rhyngwladol cyfredol mewn perthynas â rheolau Cymorth Gwladwriaethol ar roi cymorth i’r sector manwerthu elusennol
Recovery and reconstruction
j. Dylai Llywodraeth Cymru gynnal ymchwil bellach i asesu gwerth cymdeithasol ei buddsoddiad yn y sector gwirfoddol
l. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r sector gwirfoddol i nodi meysydd ar draws ei gwaith lle gall y sector gefnogi’r adferiad, gwasanaethau cyhoeddus, meithrin cydnerthedd cymunedol cynaliadwy a llesiant
ll. Dylai Llywodraeth Cymru fuddsoddi yn rhaglenni’r sector gwirfoddol sy’n cefnogi’r adferiad, mewn modd tebyg i Gronfa Adfer y Gwasanaethau Gwirfoddol. O ystyried hyd yr argyfwng, dylid ystyried ymestyn hyn y tu hwnt i’r flwyddyn ariannol gyfredol
m. Mewn gwaith adfer yn y dyfodol, dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod pob rhan o’r sector cyhoeddus yn ymgysylltu â’r sector gwirfoddol wrth lunio polisïau a darparu gwasanaethau. Dylai hyn hefyd arwain at fwy o waith partneriaeth y tu hwnt i’r adferiad a chynnwys lleisiau’r sector gwirfoddol yn ogystal â’r bobl y maent yn gweithio gyda nhw
n. Dylai Llywodraeth Cymru adrodd yn gyhoeddus ar effeithiolrwydd y strategaeth Cysylltu Cymunedau wrth fynd i’r afael ag unigrwydd a theimlo’n ynysig o fewn 12 mis.
o. Bod Llywodraeth Cymru yn archwilio ymhellach sut y mae modd defnyddio technoleg newydd, yn cynnwys yr ap sy’n cael ei ddatblygu gan Hafod, i helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd a theimlo’n ynysig. Fel rhan o hyn, dylai Llywodraeth Cymru ystyried problemau’n ymwneud â’r rhaniad digidol a sicrhau bod atebion yn ystyried problemau’n ymwneud â mynediad digidol