Menyw yn gwirfoddoli i sortio dillad mewn siop elusen

‘Un tîm gwirfoddoli gyda nod cyffredin’

Cyhoeddwyd : 12/10/20 | Categorïau:

Astudiaeth achos gan Tŷ Gobaith/Hope House, rhan o’n hymgyrch #GwirfoddolwrSiopElusenCymru mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Manwerthu Elusennau

Ar ôl ymddeol o swydd llawn straen mewn cwmni ymgynghori busnes rhyngwladol, roedd Carol yn awyddus i ddefnyddio’i hamser hamdden i ddechrau gwirfoddoli yn siop Tŷ Gobaith/Hope House yn Llandudno.

‘Fe ddes i ar draws y siop y tro cyntaf pan oeddwn i’n symud tŷ ac eisiau rhoi hen deganau fy mhlant, a oedd wedi bod yn sefyll yn yr atig, i achos da,’ medd Carol, 60 oed. ‘Doeddwn i erioed wedi bod mewn siop elusen cyn hynny, ond cyn gynted ag y cerddais trwy’r drws, roedd popeth yn teimlo’n iawn, a dywedais wrth y rheolwr y buaswn i’n hoffi gwirfoddoli.’

Mae hi wedi bod yn gwirfoddoli aml i fore a phrynhawn bob mis ers 2015, gan ddod yn aelod hanfodol o’r tîm.

‘Rydw i wrth fy modd efo’r gwahanol bethau y gallaf eu gwneud yn y siop – gweithio yn y siop ei hun, trin a didoli’r stoc, cyfrif yr arian neu oruchwylio gwirfoddolwyr pan mae’r staff cyflog i ffwrdd,’ medd Carol.

‘Ond un peth a’m synnodd oedd cymaint roeddwn i’n mwynhau delio gyda’r cwsmeriaid – doeddwn i ddim yn meddwl ar y cychwyn y byddai hynny’n hollol at fy nant. Ond mae’n rhywbeth rydw i wedi dod i’w hoffi’n fawr. Hefyd, mae teuluoedd a phlant sy’n defnyddio’r hosbis yn dod i’r siop, ac mae hynny’n gwneud ichi sylweddoli tuag at beth rydym yn gweithio.’

BUSNES O FEWN YR ELUSEN

Mae rheolwyr y siop yn ymgynghori â’r gwirfoddolwyr ynglŷn ag unrhyw newidiadau neu fentrau a allai gael eu cyflwyno, ac mae pawb yn gweithio ochr yn ochr â’i gilydd.

‘Mae pob un ohonom yn teimlo ein bod yn cael ein gwerthfawrogi fel gwirfoddolwyr a’n bod yn rhan bwysig o’r tîm. Cawn gyflwyno ein barn a chaiff ein hawgrymiadau eu clywed,’ medd Carol. ‘Un peth nad oeddwn i wedi’i sylweddoli – fel nifer o bobl eraill – yw sut mae siopau elusen yn gweithredu bron fel busnes o fewn yr elusen.

‘Mae gennym dargedau a disgwyliadau, fel unrhyw fusnes manwerthu arall. Rhaid inni fod yn llwyddiannus fel busnes er mwyn codi arian i helpu prif achos yr elusen.’

CANOLFANNAU CYMUNEDOL HOLLBWYSIG

Yn ôl Chris Dinwoodie, pennaeth Adnoddau Dynol a Gwirfoddoli, mae gwirfoddolwyr yn elfen hanfodol o ochr fanwerthu’r elusen.

‘Heb angerdd, brwdfrydedd ac ymrwymiad parhaus ein gwirfoddolwyr gwych, fydden ni ddim yn gallu rhedeg ein 14 siop,’ meddai.

‘Maen nhw’n gweithio’n ddiflino i’n helpu i greu incwm hollbwysig i redeg ein dwy hosbis a sicrhau na fydd neb yn gorfod wynebu marwolaeth plentyn ar ei ben ei hun.

‘Yn y byd digidol a rhithwir sydd ohoni, mae ein gwirfoddolwyr nid yn unig yn helpu i ddidoli, prisio, labelu, arddangos a gwerthu stoc, ond maen nhw hefyd â rôl hollbwysig o ran treulio amser yn sgwrsio ac yn cymysgu gyda chwsmeriaid newydd a rheolaidd a gwneud iddyn nhw deimlo’n gartrefol yn ein siopau ac yn rhan o’n cymunedau lleol.’

Cred fod y siopau’n gweithredu fel canolfannau cymunedol hollbwysig i wirfoddolwyr, rhywbeth sydd cyn bwysiced ag erioed.

‘Mae’r siopau’n dwyn ynghyd amrywiaeth eang o drigolion lleol o gefndiroedd o bob math i weithio fel un tîm gwirfoddoli a chanddo nod cyffredin,’ meddai.

‘Yn ei dro, mae hyn yn helpu i gynnal cydlyniant cymdeithasol a diwylliant lleol, yn mynd i’r afael ag ynysigrwydd cymdeithasol ac yn cynnal y cysylltiad rhwng y cenedlaethau – ble arall mewn cymdeithas y byddech chi’n gweld gwirfoddolwyr yn eu 80au yn helpu pobl ifanc yn eu harddegau sy’n cael eu profiad cyntaf o’r byd gwaith yn un o’n siopau.’

EFFAITH Y PANDEMIG

Mae Covid-19 wedi bod yn her i’r hosbisau a’r siopau manwerthu. Bu’n rhaid i’r holl siopau gau, gan ailagor wedyn gyda ffordd newydd o weithio, yn cynnwys ynysu rhoddion am 72 awr, aildrefnu’r siopau er mwyn sicrhau bod modd cadw pellter cymdeithasol, a chynyddu eu presenoldeb ar-lein.

‘Er bod y pandemig wedi esgor ar sawl her, mae penderfynoldeb nifer o’n gwirfoddolwyr yma yng Nghymru i ddychwelyd a chefnogi ein siopau Tŷ Gobaith/Hope House yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru yn gwneud imi deimlo’n wylaidd.

‘Yn anffodus, nid yw pob un o’n gwirfoddolwyr wedi gallu dychwelyd ac rydym yn parhau i chwilio am bobl arbennig iawn a all fforddio ychydig oriau’r wythnos i gefnogi ein siopau elusen diogel o ran Covid.

‘Beth am bicio i’ch siop Tŷ Gobaith/Hope House leol i gael gair gyda’r rheolwr a gweld sut allwch chi helpu?’

#GwirfoddolwrSiopElusenCymru

Yr wythnos yma (o 12 Hydref 2020) bydd CGGC mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Manwerthu Elusennau yn rhannu straeon gwirfoddolwyr siopau elusennol yng Nghymru. Cadwch lygad ar wefan CGGC a’r cyfryngau cymdeithasol (lle byddwn yn defnyddio #gwirfoddolwyrsiopauelusennolcymru) i glywed am amrywiaeth o wahanol brofiadau gan unigolion sy’n gwirfoddoli mewn siopau elusennol. 

Dim ond gyda gofal ac ystyriaeth briodol ar gyfer lles gwirfoddolwyr, staff a chwsmeriaid y dylid unrhywun gwirfoddoli yn ystod y pandemig. Fe welwch ganllawiau diogelu ar ein tudalen arweiniad ac adnoddau Covid-19. I gael gwybodaeth am gyfyngiadau neu ystyriaethau ar gyfer cloeon lleol mewn Cymru ewch i: https://llyw.cymru/cyfnod-clo-lleol.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Snorcelio dros natur

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer Codi Arian

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy