People sitting at Cardiff People First offices

Pawb dros bob un, digwyddiadau i bawb

Cyhoeddwyd : 09/01/20 | Categorïau:

Mae pobl sydd ag anableddau dysgu neu broblemau sy’n ymwneud a mynediad yn aml yn gorfod brwydro yn erbyn arwahanrwydd a stigma, ond mae Cyllid Cymdeithasol Ewrop drwy’r gronfa Cynhwysiant Gweithredol yn helpu Pobl yn Gyntaf Caerdydd i drawsnewid digwyddiadau a lleoliadau yng Nghaerdydd a’r cyffiniau a’u gwneud yn hygyrch i bobl ag anableddau dysgu.

Daw grŵp o wirfoddolwyr ymroddedig, bob un ag amrywiol anableddau, at ei gilydd yn swyddfeydd Pobl yn Gyntaf Caerdydd yn rheolaidd er mwyn trefnu a chynnal digwyddiadau sydd, yn ogystal â bod o fudd iddynt hwy eu hunain, o fudd i bobl eraill gydag anableddau dros yr ardal.

Bu un o gyfranogwyr Pobl yn Gyntaf Caerdydd, Simon, yn helpu i drefnu noson yng nghlwb The Moon yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Perswadiodd y band lleol Oh Peas! i chwarae gig ar ôl dod i’w hadnabod drwy gynllun Gig Buddies, sy’n paru oedolion ag anabledd dysgu gyda gwirfoddolwyr sydd â diddordebau tebyg.

Wrth siarad am fudd mynychu cyfarfodydd Pobl yn Gyntaf Caerdydd, meddai: ‘Mae’n golygu dangos i bobl beth allwn ni ei wneud a dangos i bobl eraill sydd ag anableddau fel ni bod modd i chi fynd allan, bod yn ddiogel a chael amser da.

Mae angen i bobl ddeall bod bywyd da yn golygu mwy na’r hyn yr ydych chi’n ei wneud yn ystod y dydd – mae bywyd da yn 24/7, does dim rheswm i bobl ag anableddau beidio â mynd allan gyda’r nos a bod yn ddiogel mewn digwyddiadau.’

Yn ogystal ag ymarfer y sgiliau trefnu angenrheidiol i gynnal digwyddiad, mae hyn wedi rhoi modd i Simon ddilyn ei gariad at gerddoriaeth a bod yn DJ gyda’r nosau hefyd.

Mae gan gyfranogwr arall, Anthony, broblemau symudedd difrifol ac mae’n defnyddio cadair olwyn, ‘Rwy’n teimlo bod hyn yn rheswm i ddod allan yn hytrach na chuddio fy hun gartref. Mae hi mor hawdd eistedd yn y tŷ a pheidio â mynd i unman na chwrdd â neb. Mae pawb angen cymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd.

Mae trefnu’r digwyddiadau hyn yn rhoi rheswm i ni ddod allan ac rydyn ni i gyd yn dysgu pethau newydd gan ein gilydd yn ein cyfarfodydd. Rydym ni’n siarad o blaid gwell gwasanaethau i bobl anabl.’

I gyfranogwyr eraill, gall rhywbeth mor syml â chadw eu hunain yn brysur fod yn bwysig iawn. Meddai un, ‘Pan fydda i gartref yn fy fflat, fydda i’n gwneud dim byd ond gwylio’r teledu ac rydw i’n diflasu’n gyflym, a phan fydda i’n diflasu rwy’n hunan-niweidio.’

Does dim dwywaith ynglŷn ag ymrwymiad y grŵp i’w gilydd – mae pawb yn dysgu gan y naill a’r llall. Wrth i Tom, un arall o’r cyfranogwyr, egluro ei fod yn mynd i orfod cymryd rhywfaint o amser i ffwrdd ar gyfer triniaeth i gael stentiau i helpu ei galon, mae trafodaeth a allai fod yn un ddifrifol ynglŷn â’i iechyd yn troi yn gyfle i ddysgu wrth i eraill yn y grŵp ofyn iddo egluro beth yw stentiau (a’i annog i ddangos ei sgiliau belt gwyn mewn Kung Fu).

Dyma sy’n dod â phobl yn ôl i’r grŵp yn y bôn, wythnos ar ôl wythnos. ‘Rydych chi’n cyfarfod pobl newydd; rydych chi’n dysgu ganddyn nhw ac maen nhw’n dysgu gennych chi’ medd Anthony. ‘Fe ofynnwyd i mi recordio fy llais ar gyfer fideo o’r enw “Newid llefydd” ynglŷn â Chanolfan Mileniwm Cymru. Wnes i erioed ddisgwyl y byddai rhywun yn gofyn i mi wneud hynny, y byddai rhywun yn dweud fy mod i’n siarad yn dda. Mae’n teimlo bod pobl yn wirioneddol yn gwerthfawrogi fy nghyfraniad.’

Meddai Zarah, Swyddog Prosiect Pobl yn Gyntaf Caerdydd, ‘Mae popeth yn uno yn y pen draw a hanfod y sefydliad yw cael y cyhoedd i sylwi arnynt fel pobl yn gyntaf, yn hytrach na rhywun sydd ag anableddau.’ Os ydyn nhw’n cael amser da wrth i hynny ddigwydd, wel, mae hynny’n bendant yn fonws.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 03/02/25
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Gwnewch gais nawr am Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 31/01/25
Categorïau: Cyllid

Little Lounge – cefnogi’r gymuned leol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 29/01/25
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Buddsoddi mewn atal yn ‘cadw pobl yn iach ac yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau’

Darllen mwy