Astudiaeth achos gan Hosbis Dewi Sant, rhan o’n hymgyrch #GwirfoddolwrSiopElusenCymru mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Manwerthu Elusennau
A minnau wedi gweithio’n amser llawn am 35 mlynedd, ar ôl ymddeol roedd gennyf lawer o amser rhydd!
Roeddwn wedi gweithio i elusen debyg yn Swydd Gaer ac wedi cael profiad ymarferol o’r gofal gwych y mae elusennau o’r fath yn ei roi i gleifion, a hynny’n rhad ac am ddim.
Pan symudais i Ogledd Cymru, roeddwn yn teimlo y gallwn gynnig y profiad a gefais i Hosbis Dewi Sant.
Roeddwn wedi gweithio mewn siop o’r blaen – rhywbeth sydd wrth fy modd a minnau wedi gweithio mewn swyddfa drwy gydol fy mywyd gwaith. Roedd gen i brofiad o addurno’r ffenestr, gwasanaethu a helpu cwsmeriaid, arddangos stoc newydd, didoli’r rhoddion, a helpu i gadw’r siop yn daclus a glân.
Ac yn pwysicaf, roeddwn yn caru cyfarfod â phobl newydd – yn wirfoddolwyr eraill ac yn aelodau o’r cyhoedd
Fel rhywun newydd sydd wedi symud i Gymru, mae profiad ymuno gyda’r siop wedi bod yn amhrisiadwy ac rydw i wedi gwneud llu o gyfeillion.
Hefyd, rydw i’n gweithio yn y Ganolfan Roddion yn didoli, yn hongian, yn trefnu maint ac yn stemio rhoddion, yn ogystal â helpu gydag eitemau eBay.
Trwy wirfoddoli, rydw i’n gwirioneddol gredu eich bod yn gwneud rhywbeth mor werth chweil. Mae gan Hosbis Dewi Sant 500 o wirfoddolwyr, ac yn ôl yr Hosbis ni fyddai modd iddi weithredu hebddyn nhw!
Cofiwch ystyried gwirfoddoli ar gyfer yr elusen wych hon. Mae arni eich angen!
‘YMDEIMLAD O GYFLAWNI, CYMUNED A PHERTHYN’
‘Mae gan ein gwirfoddolwyr manwerthu gwych rôl hanfodol yn sefydliad ein Hosbis, ac maen nhw’n annwyl gan ein staff a’n cwsmeriaid fel ei gilydd,’ meddai Lou Barber Barber, Cydlynydd Gwirfoddolwyr.
‘Maen nhw bob amser wrth law i gynnig sgwrs gyfeillgar a gwên radlon, ynghyd ag unrhyw gyngor defnyddiol y mae ein cwsmeriaid ei angen.
‘Rydym yn falch fod cynifer o drigolion Gogledd Cymru yn rhoi mor hael o’u hamser i’n helpu, a gobeithio eu bod yn teimlo ymdeimlad hollol haeddiannol o gyflawni, o gymuned ac o berthyn.’
#GWIRFODDOLWRSIOPELUSENCYMRU
Yr wythnos yma (o 12 Hydref 2020) bydd CGGC mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Manwerthu Elusennau yn rhannu straeon gwirfoddolwyr siopau elusennol yng Nghymru. Cadwch lygad ar wefan CGGC a’r cyfryngau cymdeithasol (lle byddwn yn defnyddio #gwirfoddolwyrsiopauelusennolcymru) i glywed am amrywiaeth o wahanol brofiadau gan unigolion sy’n gwirfoddoli mewn siopau elusennol.
Dim ond gyda gofal ac ystyriaeth briodol ar gyfer lles gwirfoddolwyr, staff a chwsmeriaid y dylid unrhywun gwirfoddoli yn ystod y pandemig. Fe welwch ganllawiau diogelu ar ein tudalen arweiniad ac adnoddau Covid-19. I gael gwybodaeth am gyfyngiadau neu ystyriaethau ar gyfer cloeon lleol mewn Cymru ewch i: https://llyw.cymru/cyfnod-clo-lleol.