Wales Air Ambulance volunteers man a publicity stand with balloons and charity merchandise at an event. A man and a woman are wearing red and white charity t-shirts and laughing with a visitor

‘Mae hi eisiau helpu i achub bywydau’

Cyhoeddwyd : 12/10/20 | Categorïau:

Astudiaeth achos gan Ambiwlans Awyr Cymru, rhan o’n hymgyrch #GwirfoddolwrSiopElusenCymru mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Manwerthu Elusennau.

Mae gwirfoddolwyr yn anhepgor i nifer o elusennau.

Nid yn unig maent yn helpu gyda thasgau hanfodol ac yn rhannu llwyth gwaith y staff mewn siopau, ond maent hefyd yn cynhyrchu incwm hollbwysig i achosion da.

Yn aml, fodd bynnag, ni roddir digon o sylw i’r ffyrdd y gall y gwirfoddolwyr elwa ar roi mor hael o’u hamser.

Dyna ichi Daniella Spicer, er enghraifft. Mae hi’n 26 oed ac wedi gwirfoddoli yn siop Ambiwlans Awyr Cymru yng Nghwm-du ers saith mlynedd. Gyda’i mam yn aelod staff hirdymor yn yr elusen, nid tasg anodd oedd dewis achos da.

Ond mae ei chymhelliant yn glir, mae hi eisiau helpu i achub bywydau. Meddai: ‘Rydw i wrth fy modd yn gwneud i bobl deimlo’n hapus ac rydw i’n mwynhau cadw’r siop yn daclus.’

Gwirfoddolwr ifanc Ambiwlans Awyr Cymru, Danni, yn ei chrys-t Ambiwlans Awyr Cymru Wales Air Ambulance

Mae Daniella – neu Danni, fel y caiff ei galw – wedi dysgu sut i ddidoli dillad ac eitemau eraill a gyflwynir i’w gwerthu yn y siop. Hefyd, mae hi’n hen law ar wneud paned o goffi!

Wrth sôn am werth gwirfoddolwyr, dyma sydd ganddi i’w ddweud: ‘Rydw i’n credu bod gwirfoddolwyr yn bwysig iawn, oherwydd rydym yn arbed arian i’r elusen ac yn helpu i achub bywydau. Mae fy nghyfeillion yn hapus iawn ac yn falch ohonof i.’

Pan nad yw Danni yn gwirfoddoli, does dim yn well ganddi na gofalu am ei chi bach, mynd i siopa gyda’i mam a helpu i lanhau’r tŷ.

Yn awr, wrth i’r wlad ddechrau ailafael yn y drefn arferol ar ôl y pandemig, mae Danni yn edrych ymlaen at weld ei holl gyfeillion yn y siop a chynnig help llaw unwaith eto.

#GWIRFODDOLWRSIOPELUSENCYMRU

Yr wythnos yma (o 12 Hydref 2020) bydd CGGC mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Manwerthu Elusennau yn rhannu straeon gwirfoddolwyr siopau elusennol yng Nghymru. Cadwch lygad ar wefan CGGC a’r cyfryngau cymdeithasol (lle byddwn yn defnyddio #gwirfoddolwyrsiopauelusennolcymru) i glywed am amrywiaeth o wahanol brofiadau gan unigolion sy’n gwirfoddoli mewn siopau elusennol.

Dim ond gyda gofal ac ystyriaeth briodol ar gyfer lles gwirfoddolwyr, staff a chwsmeriaid y dylid unrhywun gwirfoddoli yn ystod y pandemig. Fe welwch ganllawiau diogelu ar ein tudalen arweiniad ac adnoddau Covid-19. I gael gwybodaeth am gyfyngiadau neu ystyriaethau ar gyfer cloeon lleol mewn Cymru ewch i: https://llyw.cymru/cyfnod-clo-lleol.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/12/24
Categorïau: Newyddion

Prosiect gwrth-hiliol o fudd i ysgolion yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/12/24
Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Cadwch y dyddiad – gofod3 2025

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/12/24
Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Integreiddio cynaliadwyedd yn eich cynllun busnes chi!

Darllen mwy