Astudiaeth achos gan Hope Rescue, rhan o’n hymgyrch #GwirfoddolwrSiopElusenCymru mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Manwerthu Elusennau
Ers 2005 mae Hope Rescue wedi bod yn achub bywydau cŵn crwydr sydd wedi cael eu gadael ac nad oes ar neb eu heisiau – cŵn sydd, heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain, angen ail gyfle. Yn Hope Rescue mae gennym filoedd o wirfoddolwyr sy’n gwirfoddoli trwy’r elusen, yn cynnwys pobl sy’n mynd â chŵn am dro ac yn glanhau’r cytiau, stiwardiaid digwyddiadau, crefftwyr, gofalwyr maeth, pobl sy’n codi arian ac, wrth gwrs, pobl sy’n gweithio yn ein siop elusen. Mae ein siop elusen yn talu ein biliau milfeddygol misol, felly mae ein gweithgareddau’n hanfodol er mwyn cael incwm rheolaidd, a heb ein gwirfoddolwyr ni fyddai modd inni agor. Mae rhai o’n gwirfoddolwyr yn gweithio wrth y til ac yn meithrin perthynas wych â’n cwsmeriaid – llawer ohonynt yn gwsmeriaid rheolaidd sy’n hoffi picio draw i ddweud ‘helo’. Ac mae eraill yn gweithio yn y cefn, yn didoli ac yn stemio. Maent wrth eu bodd yn gwirfoddoli gyda ni, oherwydd i rai ohonynt mae’n seibiant oddi wrth eu bywydau arferol ac mae wedi helpu nifer ohonynt gyda phroblemau gorbryder ac iechyd meddwl. Mae gwirfoddoli wedi eu helpu i fagu hyder a hunan-barch.
Rydym wedi bod ar gau ers chwech mis oherwydd y llifogydd ym mis Chwefror ac, wrth gwrs, COVID-19; ond mae gennym un gwirfoddolwr, Mary, sydd wedi bod yn andros o help tra rydym wedi bod ar gau. Mae Mary wedi bod yn rhedeg ein siop ar-lein o’i hystafell wely sbâr ac wedi bod yn y siop ei hun yn didoli ac yn tacluso i fyny’r grisiau, er mwyn i bopeth fod yn barod pan gawn ni fynd yn ôl yno. Hefyd, mae Mary yn creu nifer o’n harwyddion a’n mannau gwerthu, gan wneud defnydd o’i chymwysterau. Dyma’r hyn sydd gan Mary i’w ddweud am wirfoddoli a Hope Rescue:
‘Mae gwirfoddoli yn Siop Elusen Hope Rescue yn fy helpu i gadw mewn cysylltiad â’r gymuned, yr achos a mi fy hun.’
‘Rydw i’n gallu rhwydweithio â chwsmeriaid a staff o gefndiroedd a diddordebau gwahanol – pobl na fuaswn i wedi eu cyfarfod fel arall.’
‘A minnau wedi maethu cŵn cyn symud i’r ardal, roeddwn i wedi bod yn meddwl am gyfreithiau’n ymwneud â chreulondeb i anifeiliaid, hyfforddiant ac ymddygiad cŵn, ac arferion gorau. Trwy weithio gyda Siop Elusen Hope Rescue, rydw i’n cael fy addysgu yn y pethau yma, ond hefyd rydw i’n cael helpu ac addysgu pobl eraill.’
‘Rydw i’n cael hogi sgiliau yr arferwn eu defnyddio yn fy ngwaith ardystiedig a chymwysedig (dylunio graffeg a gwasanaethau i gwsmeriaid, er enghraifft).’
‘Yn bersonol, mae fy iechyd meddwl wedi gwella trwy greu rhwydwaith cymorth iach, trwy ddechrau dysgu arferion rhyngbersonol iach (fel gosod terfynau a dweud ‘na’), a thrwy bennu a chyflawni nodau. Rydw i mor falch fy mod wedi mentro i mewn i Siop Elusen Hope Rescue fel cwsmer gynifer o flynyddoedd yn ôl. Rydw i hyd yn oed yn falchach fy mod wedi aros yno fel gwirfoddolwr.’
Hoffem ddiolch i bob un o’n gwirfoddolwyr am eu hymrwymiad parhaus. Byddai’n amhosibl inni agor ein siop heboch.
#GWIRFODDOLWRSIOPELUSENCYMRU
Yr wythnos yma (o 12 Hydref 2020) bydd CGGC mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Manwerthu Elusennau yn rhannu straeon gwirfoddolwyr siopau elusennol yng Nghymru. Cadwch lygad ar wefan CGGC a’r cyfryngau cymdeithasol (lle byddwn yn defnyddio #gwirfoddolwyrsiopauelusennolcymru) i glywed am amrywiaeth o wahanol brofiadau gan unigolion sy’n gwirfoddoli mewn siopau elusennol.
Dim ond gyda gofal ac ystyriaeth briodol ar gyfer lles gwirfoddolwyr, staff a chwsmeriaid y dylid unrhywun gwirfoddoli yn ystod y pandemig. Fe welwch ganllawiau diogelu ar ein tudalen arweiniad ac adnoddau Covid-19. I gael gwybodaeth am gyfyngiadau neu ystyriaethau ar gyfer cloeon lleol mewn Cymru ewch i: https://llyw.cymru/cyfnod-clo-lleol.