Gwirfoddolwyr City Hospice yn sefyll tu allan i'r siop elusennol

‘Mae cynorthwyo’r Hosbis yn rhoi ymdeimlad mawr o bwrpas imi’

Cyhoeddwyd : 12/10/20 | Categorïau:

Astudiaeth achos gan City Hospice, rhan o’n hymgyrch #GwirfoddolwrSiopElusenCymru mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Manwerthu Elusennau.

Gwirfoddolwr yn gwisgo mwgwd yn sefyll y tu ôl i'r salwch mewn siop elusennol
Mae Liz Jervis yn dweud wrthom:

‘Mae’r pum mis diwethaf wedi bod yn anodd i gynifer o bobl mewn cymaint o wahanol ffyrdd. I elusennau sy’n dibynnu ar godi arian er mwyn cario ’mlaen, mae wedi bod yn gyfnod arbennig o anodd.’

‘Yn Hosbis y Ddinas, mae ailagor rhai o’n siopau yn gam tuag at normalrwydd (beth bynnag fydd hwnnw yn y dyfodol!) a bydd yn esgor ar arian y mae arnom ei wir angen i sicrhau y gall ein nyrsys barhau i gynnig cymorth amhrisiadwy i’n cleifion a’u teuluoedd.’

‘Fel gwirfoddolwr, mae cynorthwyo’r Hosbis yn rhoi ymdeimlad mawr o bwrpas imi, ynghyd â theimlad o ychwanegu gwerth a theimlad bod ar rywun fy angen. Er na all ein siopau weithredu mor rhwydd ag o’r blaen, rydw i’n siŵr y bydd ein cwsmeriaid (llawer ohonynt yn ymwelwyr rheolaidd sy’n dod draw sawl gwaith yr wythnos) yn falch o gael cyfle nid yn unig i brynu nwyddau, ond i gael sgwrs unwaith eto – rhywbeth y byddant, yn ddi-os, wedi gweld ei eisiau yn ystod cyfnod y cyfyngiadau.’

‘Yn bersonol, rydw i wedi colli cwmnïaeth tîm yr Hosbis, y gwirfoddolwyr eraill rydw i’n gweithio gyda nhw a’r cwsmeriaid sy’n dod i’r siop bob wythnos yn ystod fy sifft.’

#GwirfoddolwrSiopElusenCymru

Yr wythnos yma (o 12 Hydref 2020) bydd CGGC mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Manwerthu Elusennau yn rhannu straeon gwirfoddolwyr siopau elusennol yng Nghymru. Cadwch lygad ar wefan CGGC a’r cyfryngau cymdeithasol (lle byddwn yn defnyddio #gwirfoddolwyrsiopauelusennolcymru) i glywed am amrywiaeth o wahanol brofiadau gan unigolion sy’n gwirfoddoli mewn siopau elusennol.

Dim ond gyda gofal ac ystyriaeth briodol ar gyfer lles gwirfoddolwyr, staff a chwsmeriaid y dylid unrhywun gwirfoddoli yn ystod y pandemig. Fe welwch ganllawiau diogelu ar ein tudalen arweiniad ac adnoddau Covid-19. I gael gwybodaeth am gyfyngiadau neu ystyriaethau ar gyfer cloeon lleol mewn Cymru ewch i: https://llyw.cymru/cyfnod-clo-lleol.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/12/24
Categorïau: Newyddion

Prosiect gwrth-hiliol o fudd i ysgolion yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/12/24
Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Cadwch y dyddiad – gofod3 2025

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/12/24
Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Integreiddio cynaliadwyedd yn eich cynllun busnes chi!

Darllen mwy