Tenovus Cancer Care charity shop volunteer smiles and holds up contactless payment terminal to a perspex protective screen

‘Mae cael treulio amser yn y siop yn hollol donig’

Cyhoeddwyd : 12/10/20 | Categorïau:

Astudiaeth achos gan Gofal Canser Tenovus, rhan o’n hymgyrch #GwirfoddolwrSiopElusenCymru mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Manwerthu Elusennau.

STORI JUDITH

‘Ni waeth be mae pobl yn ei ddweud, mae cael canser yn newid eich bywyd. Yn sgil y profiad a gefais i, dechreuais ofni’r dyfodol yn ofnadwy, ac yn ystod y cyfnodau cynnar roeddwn i’n cael trafferth meddwl am unrhyw beth arall. Roeddwn i’n wirion, oherwydd wnes i ddim dweud wrth neb, a chan fy mod wedi llwyddo i gadw fy ngwallt am ran helaeth o’r driniaeth, doedd dim angen imi ddweud wrth neb.

‘Darllenais am Ofal Canser Tenovus mewn taflen a roddwyd imi mewn noson agored radiotherapi ar gyfer cleifion a’u teuluoedd. Bu eu cefnogaeth yn wych ac roedd yr amseru’r berffaith. Rydw i wedi llwyddo i roi pethau mewn persbectif, goresgyn fy ofn ac wynebu’r dyfodol yn fwy cadarnhaol.

‘Penderfynais ddechrau gwirfoddoli yn fy siop Gofal Canser Tenovus leol yn y Mwmbwls unwaith yr wythnos. Cefais gyfarfod â’r tîm fis Medi diwethaf, cefais weld sut oedd popeth yn gweithio, dysgais y drefn a dechreuais deimlo’n dda iawn ynglŷn â’r peth.

Mae gwirfoddolwr yn siop elusen Tenovus Cancer Care yn gwenu'n eang o flaen rheilen ddillad, mae esgidiau a nwyddau eraill yn y cefndir

‘Ychydig fisoedd yn unig ar ôl imi ddechrau gwirfoddoli, fe ddaeth pandemig y Coronafeirws a bu’n rhaid cau’r siop. Ond llwyddodd yr holl dîm i gadw mewn cysylltiad trwy sgyrsiau grŵp, a bu hynny’n ffordd wych o godi calonnau ein gilydd ar adegau.

‘Roedd hi’n wych clywed y byddai modd ailagor y siop ddechrau mis Awst. Roeddwn i’n edrych ymlaen at wirfoddoli unwaith eto a threuliais fy wythnos gyntaf yn glanhau ac yn gosod cyfarpar diogelu personol. Roedd ein dillad gaeaf yn dal i gael eu harddangos, felly bu’n rhaid i’r tîm cyfan weithio’n galed i baratoi’r siop ar gyfer ein cwsmeriaid.

‘Mae’r Mwmbwls yn dref fechan a chanddi gymuned fendigedig, ac mae gweithio yn y siop elusen leol yn golygu fy mod yn cael teimlo’n rhan fwy o’r gymuned honno. Mae’r cwsmeriaid rheolaidd eisoes yn dychwelyd i’n gweld ac mae hi’n braf cael sgwrs a rhoi’r byd yn ei le wrth y til.

‘Mae cadw’n brysur yn ffordd dda o dynnu eich meddwl oddi ar bethau, ac mae cael treulio amser yn y siop yn donig pur. Rydw i’n gwirfoddoli gyda chriw gwych o bobl, ac os byddaf yn teimlo’n isel maen nhw’n bleser i fod o’u cwmpas. Mae Gofal Canser Tenovus wedi rhoi cymaint imi ac mae gwirfoddoli yn ffordd dda o roi rhywbeth yn ôl.’

#GWIRFODDOLWRSIOPELUSENCYMRU

Yr wythnos yma (o 12 Hydref 2020) bydd CGGC mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Manwerthu Elusennau yn rhannu straeon gwirfoddolwyr siopau elusennol yng Nghymru. Cadwch lygad ar wefan CGGC a’r cyfryngau cymdeithasol (lle byddwn yn defnyddio #gwirfoddolwyrsiopauelusennolcymru) i glywed am amrywiaeth o wahanol brofiadau gan unigolion sy’n gwirfoddoli mewn siopau elusennol.

Dim ond gyda gofal ac ystyriaeth briodol ar gyfer lles gwirfoddolwyr, staff a chwsmeriaid y dylid unrhywun gwirfoddoli yn ystod y pandemig. Fe welwch ganllawiau diogelu ar ein tudalen arweiniad ac adnoddau Covid-19. I gael gwybodaeth am gyfyngiadau neu ystyriaethau ar gyfer cloeon lleol mewn Cymru ewch i: https://llyw.cymru/cyfnod-clo-lleol.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Snorcelio dros natur

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer Codi Arian

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy